Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru’n Arddangos Talent Ifanc Mewn Cynyrchiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

11 Mai 2022
  • Opera Ieuenctid WNO (10-18 oed) i berfformio opera comig arswydus The Black Spider yn Stiwdio Weston ym mis Mai.        
  • Opera Ieuenctid WNO (10-14 oed) i chwarae rhan sylweddol mewn opera newydd arloesol, Migrations, fel rhan o Tymor yr Haf WNO yn y Ganolfan.
  • Opera Ieuenctid WNO (18-25 oed) i berfformio Cherry Town, Moscow gan Shostakovich, gyda Daisy Evans yn cyfarwyddo, ar Lwyfan Donald Gordon, yn yr Hydref.       
  • Mae Opera Ieuenctid WNO yn cynnig lleoliadau proffesiynol yn y diwydiant i ddatblygu sgiliau ar y llwyfan ac oddi arno, ar gyfer cantorion, cyfarwyddwyr a myfyrwyr animeiddio.

Bydd Tymhorau Haf a Hydref Opera Cenedlaethol Cymru’n cyflwyno talent Opera Ieuenctid clodwiw'r Cwmni mewn cynyrchiadau dros y misoedd i ddod.              

Wrth gynnig adloniant eithriadol i gynulleidfaoedd, gan dalent newydd, mae pobl ifanc Opera Ieuenctid WNO yn ennill profiad o hyfforddiant cwbl broffesiynol ac unigryw, gan weithio gyda Cherddorfa WNO, ei ddylunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr, sy’n helpu i ddatblygu a chefnogi eu sgiliau proffesiynol. Bydd y darpar gantorion hefyd yn cael eu mentora a’u harwain gan rai o unigolion proffesiynol gorau’r diwydiant.  

The Black Spider

Bydd Opera Ieuenctid WNO (10-18 oed) yn perfformio opera comig arswydus The Black Spider, a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Judith Weir, yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. Caiff y cynhyrchiad ei berfformio gan gwmni o 50 o gantorion 10 i 18 oed, sy’n aduno ar gyfer eu cynhyrchiad byw cyntaf ers Brundibár yn 2019.

Mae’r cynhyrchiad cyflawn, sydd wedi ei ysbrydoli gan ffilmiau arswyd ‘Hammer Horror’, ynghyd â’i gyfarwyddo gan Rhian Hutchings a’i arwain gan Dan Perkin, yn archwilio melltith ddirgel, firws marwol, ac arachnid drygionus, sy’n seiliedig ar hanes tywyll canoloesol Jeremias Gotthelf Die Schwarze Spinn. Mae Judith Weir wedi creu The Black Spider yn benodol ar gyfer pobl ifanc gan gyfuno hanes, arswyd a chomedi, gyda’r nod o arddangos eu sgiliau actio a chanu, gan ddarparu darn unigryw i Opera Ieuenctid WNO ei berfformio ac i gynulleidfaoedd ei fwynhau.

Gan weithio mewn cydweithrediad â phrifysgolion lleol i hyrwyddo ac annog talent leol, bydd y cynhyrchiad hefyd yn cynnwys dau fyfyriwr opera o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. I feithrin talent ifanc oddi ar y llwyfan, bydd Cyn-aelod o’r Opera Ieuenctid yn cymryd rôl y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, a chaiff tafluniadau animeiddiedig ar gyfer y set eu creu gan 20 o fyfyrwyr sydd ar gwrs BA Animeiddio Prifysgol De Cymru.                    

Cynhelir sgwrs cyn y perfformiad ar y nos Sadwrn gan y Cyfansoddwr Judith Weir, y Cyfarwyddwr Rhian Hutchings a’r Darlithydd o Brifysgol Caerdydd, Dr David Beard.

 

Migrations

Mae Migrations yn opera newydd arloesol a fydd yn cael ei pherfformiad cyntaf yn y byd fel rhan o Dymor yr Haf WNO, gyda rhagor o berfformiadau yn yr Hydref. Wedi’i chyfansoddi gan Will Todd a’i chyfarwyddo gan Syr David Pountney, bydd yr opera’n cynnwys grym Cerddorfa a Chorws WNO ar y cyd â Chôr Gospel Renewal, dawnswyr Bollywood a cherddorion traddodiadol o’r India, i greu profiad opera unigryw.

Bydd aelodau o Opera Ieuenctid WNO (10-14) yn perfformio fel rhan o’r Corws Plant, sy’n cynnwys Birds, sef un o chwe stori am fudo a grëwyd ar gyfer yr opera. Wedi’i hysgrifennu gan Eric Ngalle Charles, mae’r stori hon yn archwilio eu proses fudo naturiol.                                         


Cherry Town, Moscow

Fel rhan o Dymor yr Hydref WNO, bydd yr Opera Ieuenctid (18-25 oed) yn cyflwyno cynhyrchiad modern o Cheryomushki, gan Shostakovich ar brif lwyfan Theatr Donald Gordon. Wedi’i ailenwi’n Cherry Town, Moscow ar gyfer y cynhyrchiad newydd, mae’r opereta ddychanol, ysgafngalon yn hoelio sylw ar y prinder tai a’r her o ddiogelu amodau y gellir byw ynddynt yn Rwsia Sofietaidd y 1950au.

Mae Daisy Evans yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo, yn dilyn llwyddiant ysgubol Don Pasquale yn 2019. Mae Mary King yn ymuno â’r cynhyrchiad fel arbenigwr llais ac Alice Farnham yn dychwelyd fel Cyfarwyddwr Cerdd, yn dilyn cynyrchiadau llwyddiannus yr Opera Ieuenctid o Paul Bunyan a Kommilitonen!

Roedd Mica Smith, myfyriwr CBCDC ac aelod presennol o Opera Ieuenctid WNO, yn dweud:Rydw i mor falch o gael chwarae’r Cownt Heinrich yn y perfformiadau sydd i’w cynnal o The Black Spider a Drebednyov yn y cynhyrchiad o Cherry Town, Moscow yn yr hydref. Mae gweithio gydag Opera Ieuenctid WNO wedi fy ngalluogi i gael gwybod rhagor am ddod yn berfformiwr proffesiynol a chael profiad o hynny. Mae’n arbennig o gyffrous i mi gan mai dyma fydd y tro cyntaf i mi chwarae’r prif rannau gydag Opera Ieuenctid WNO ers i mi uniaethu â bod yn anneuaidd. Bu pawb yn anhygoel o gefnogol a chroesawgar o ran defnyddio’r rhagenwau rwy’n dymuno eu defnyddio (nhw) a’r enw a ddewiswyd gennyf, sef Mica. Mae hyn yn gwneud i’r man ymarfer deimlo’n ddiogel, ac yn rhywle sydd nid yn unig yn derbyn beth ydyw i fod yn wahanol, ond yn gwerthfawrogi hynny. Rwy’n teimlo’n wirioneddol anrhydeddus i fod yn rhan o gwmni mor anhygoel.’

 

Cyn-aelodau Opera Ieuenctid WNO

Mae Opera Ieuenctid WNO wedi meithrin llawer o gantorion opera a rhai fydd yn gweithio’n     broffesiynol yn y diwydiant yn y dyfodol, ac wedi datblygu enw da am gynhyrchu theatr eithriadol, sydd wedi cael adolygiadau 5* gan y wasg genedlaethol yn rheolaidd, ynghyd ag ennill y Wobr RPS fawreddog am ei gynhyrchiad o Paul Bunyan yn 2013.

Mae sawl un o gyn-aelodau Opera Ieuenctid WNO, gan gynnwys Natalya Romaniw (ENO), Samantha Price (ROH) a Jordan Lee Davies (Taith y DU The Book of Mormon), yn gweithio mewn cwmnïau Opera a Theatr Cerdd ledled y DU, a thu hwnt. Oddi ar y llwyfan, mae nifer o gyn-aelodau’n gweithio’n llawn amser fel technegwyr, rheolwyr llwyfan a gweinyddwyr celfyddydol.

Mae Opera Ieuenctid WNO yn cynnig amgylchedd cymdeithasol a chefnogol lle mae croeso i bawb. Anogir pobl o bob cefndir i ymuno â’r grŵp, nid oes angen unrhyw glyweliad i gymryd, rhan ac mae cymorth ar gael yn ffurf bwrsari.                                   

Roedd Cynhyrchydd Opera Ieuenctid WNO, Paula Scott, yn dweud:Sefydlwyd Opera Ieuenctid WNO yng nghanol y 1990’au fel modd i’r Cwmni rannu ei gariad at opera gyda darpar gantorion ifanc. Mae’n rhaglen hyfforddiant lwyddiannus i bobl ifanc, 10 - 25 oed, sydd wrth eu boddau’n canu ac yn perfformio. Ein nod yw agor y drws i fyd o brofiadau a chyfleoedd newydd, sy’n llawn hwyl ac yn gyffrous - lle mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn cael gwybod rhagor am weithio gyda chwmni Opera proffesiynol, ynghyd â dysgu am y gwahanol lwybrau gyrfa, ar y llwyfan ac oddi arno, wrth ddatblygu sgiliau bywyd, meithrin hunanhyder a gwneud ffrindiau newydd.’                                         

Dim ond un agwedd ar raglen ddatblygu talent WNO i feithrin talent at y dyfodol ym maes opera yw Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Mae rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO yn darparu’r cyfle i raddedigion diweddar sydd wedi arbenigo mewn unrhyw faes perfformio neu astudiaethau lleisiol, ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau perfformio a gyrfa o fewn cwmni opera. Ymhlith Artistiaid Cyswllt blaenorol y mae Harriet Eyley, Rebecca Afonwy Jones, ac Wynne Evans.

Mae rhagor o wybodaeth am ymuno ag Opera Ieuenctid WNO yn y dyfodol ar gael ar wefan WNO, gan gynnwys amseroedd, lleoliadau a manylion cysylltu. Mae tocynnau ar gyfer bob cynhyrchiad ar werth ar hyn o bryd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk


DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf.  Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli.
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o www.wno.org.uk/press
  • Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan Sefydliad John Ellerman.
  • Cefnogir Migrations gan Sefydliad John Ellerman, Sefydliad John S Cohen a Syndicet Comisiynau Newydd WNO. Cyflwynir y cynhyrchiad er cof am Anthony Bunker.
  • Cyflwynir Cherry Town, Moscow er cof am Philippa a David Seligman.
  • Cefnogir Cherry Town, Moscow gan ABP ac Ymddiriedolaeth Theatr Unity.              
  • Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs, Partneriaid WNO, Paul a Marie Carson, Sefydliad Elusennol Boris Karloff, Mr a Mrs John a Maggie Hayes a The Seligman Gift.
  • Cefnogir gwaith datblygu talent WNO gan Ymddiriedolaeth Elusennol y Teulu Bateman a Sefydliad Kirby Laing.
  • Cyflwynir The Black Spider er cof am Philippa a David Seligman.
  • Cefnogir The Black Spider gan ABP a Sefydliad Elusennol Boris Karloff.

 

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:  

Christina Blakeman, Swyddog y Wasg

christina.blakeman@wno.org.uk

Giselle Dugdale, Gweinyddwr y Wasg

giselle.dugdale@wno.org.uk