Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn cryfhau’r Bwrdd gyda phedwar aelod newydd

7 Tachwedd 2023

Mae WNO yn falch o gyhoeddi penodiad pedwar aelod newydd i’w Fwrdd.  Mae'r aelodau newydd yn dod ag arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys cyllid, y gyfraith, marchnata, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a rheoli'r celfyddydau.

Mae Harriet Feilding yn Gyfrifydd Siartredig. Yn y gorffennol mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid i English National Opera.  Ar hyn o bryd, hi yw Prif Swyddog Ariannol grŵp o gwmnïau sy’n diogelu ac yn gweithredu asedau rheilffyrdd treftadaeth.  Mae Harriet wedi dal nifer o swyddi anweithredol mewn sefydliadau celfyddydol a threftadaeth, ac ar hyn o bryd mae’n Is-gadeirydd a Thrysorydd Ymddiriedolaeth Canolfan Gerddoriaeth Wiltshire.

Mae Paul Hughes yn Gyn-gyfarwyddwr Cerddorfa Symffoni a Chorws y BBC ac yn Gyfarwyddwr Cantorion y BBC.  O dan ei gyfarwyddyd, bu’r ensembles hyn yn teithio’r byd, yn recordio’n helaeth, yn ehangu eu cynulleidfaoedd ac yn ymgymryd ag ystod eang o brosiectau addysg a datblygu cynulleidfaoedd.  Ers gadael y BBC, mae ei yrfa wedi canolbwyntio ar fentora arweinwyr, cyfansoddwyr a gweinyddwyr ifanc yn y celfyddydau. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglennu a Mentora ar gyfer Lead Foundation yn y Ffindir. Mae hefyd wedi dal swyddi allweddol gyda The Academy of Ancient Music, IMG Artists, y Royal Scottish National Orchestra a’r Côr a Cherddorfa Monteverdi.

Mae Gerallt Jones yn Bartner ac yn Bennaeth Corfforaethol a Masnachol yn Hugh James lle mae ei gleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Prince's Gate Water, Rygbi Caerdydd a SA Brain & Co. Cyn ymuno â Hugh James yn 2005, treuliodd Gerallt 12 mlynedd yn gweithio yn Llundain a Hong Kong i’r cwmnïau cyfreithiol blaenllaw rhyngwladol Slaughter and May a Freshfields.  Yn siaradwr Cymraeg rhugl, ganed Gerallt yng Nghaerdydd ac astudiodd yn Jesus College, Oxford a Choleg y Gyfraith, Caer.  Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd.

Graddiodd Kenon Man o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gyrfa gelfyddydol sydd wedi ei weld yn gweithio ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan gyda sefydliadau yn cynnwys The Young Vic, Royal and Derngate Theatre, Canolfan Mileniwm Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr y Sherman.  Ar ôl symud i faes addysg uwch, mae ar hyn o bryd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr yn Imperial College London. Mae'n farchnatwr sydd wedi ennill gwobrau.  Y tu hwnt i'w ymrwymiadau proffesiynol, mae Kenon yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Cyd-gadeiriodd rhwydwaith Aml-ddiwylliannol CASE Europe, gan hyrwyddo gweithwyr proffesiynol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BAME) sy'n gweithio o fewn addysg uwch.  Mae hefyd yn eiriolwr dros amrywiaeth o fewn y diwydiant fel cynghorydd i grŵp The Xec Allstars y fenter BME PR Pros, lle mae'n ymgysylltu ac yn hyrwyddo arweinwyr BME sy'n dod i'r amlwg ym maes cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus.

Dywedodd Yvette Vaughan Jones, Cadeirydd Bwrdd WNO:

“Mae’n bleser mawr gennyf groesawu pedwar aelod newydd i’n Bwrdd a fydd yn ymestyn ehangder arbenigedd ein Bwrdd mewn meysydd allweddol.  Bydd yr wybodaeth a’r sgiliau maent yn dod gyda nhw yn gymorth i lunio dyfodol y Cwmni wrth i ni geisio dod â mwy o bobl ynghyd i brofi pŵer opera a’r gwaith cymunedol helaeth yr ydym yn ei wneud ledled Cymru a thu hwnt. 

“Rwyf i a gweddill y Bwrdd yn edrych ymlaen at weithio’n agos â nhw wrth i ni symud ymlaen.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.  Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus.  Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg

christina.blakeman@wno.org.uk

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu

rhys.edwards@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)

penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk

wno.org.uk