Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei hysbrydoli gan Hollywood mewn ffilm fer i nodi Diwrnod Aids y Byd

1 Rhagfyr 2023
  • Mae WNO yn rhyddhau ffilm fer newydd La mamma morta, wedi’i hysbrydoli gan ffilm eiconig Tom Hanks Philadelphia
  • Nathaniel Hall (seren It’s A Sin Channel 4) sy’n serennu yn y ffilm sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o brofiadau cyfoes o HIV
  • Mae’r ffilm yn nodi trydydd cam a cham olaf rhaglen Tair Llythyren WNO, a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â Fast Track Cymru

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi rhyddhau ffilm fer i nodi Diwrnod Aids y Byd fel rhan o’u prosiect Tair Llythyren, a ysbrydolwyd gan olygfa eiconig o ffilm Tom Hanks a Denzel Washington Philadelphia (1993).

Roedd aria o Andrea Chenier - La mamma morta - yn ymddangos mewn dilyniant cofiadwy yn y ffilm sy'n dilyn cymeriad Tom Hanks, Andrew Beckett, yn brwydro gyda stigma cymdeithasol a phroblemau iechyd a ddaeth yn sgil ei ddiagnosis o HIV.

Yn y ffilm fer hon gan WNO, mae recordiad newydd sbon o’r aria yn chwarae dros olygfeydd wedi’u hail-greu sy’n crynhoi yn well safbwyntiau pobl sy’n byw gyda HIV heddiw ac yn adlewyrchu ar y datblygiadau rhyfeddol o amgylch HIV sydd wedi digwydd dros y tri degawd diwethaf ers i Philadelphia gael ei ryddhau gyntaf.

Mae’r aria’n cael ei chanu gan y soprano Camilla Roberts, gyda chyfeiliant gan Gerddorfa WNO a thestun llafar newydd wedi’i ysgrifennu gan Andrew Loretto, wedi’i berfformio gan Nathaniel J Hall (seren y ddrama lwyddiannus It’s a Sin ar Channel 4).

Dywedodd Nathaniel J Hall: “Mae Philadelphia yn bodoli mewn canon o waith am HIV ac AIDS – ynghyd ag Angels in America a Rent – ac er bod y rhain i gyd yn ddarnau anhygoel o waith, maen nhw'n canolbwyntio ar HIV fel rhywbeth sy'n cyfyngu ar fywyd oherwydd y cyfnod amser y maent yn ei gwmpasu. Mae'n bwysig nawr i ddefnyddio adrodd straeon a cherddoriaeth i ddathlu pa mor bell yr ydym wedi dod a chodi ymwybyddiaeth o realiti modern byw gyda HIV. Yn anffodus, mae pobl yn dal i wynebu stigma, gwahaniaethu a chael eu gwrthod gan eraill oherwydd y firws hwn ac nid oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylent.’

La mamma morta yw trydydd cam rhaglen Tair Llythyren WNO, sydd wedi’i dylunio a’i chyflwyno ar y cyd â Fast Track Cymru i godi ymwybyddiaeth o brofiadau cyfoes o HIV. Gan adeiladu ar waith prosiect AIDS Quilt Songbook a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau ym 1992, mae'r rhaglen wedi arwain at greu triawd o ganeuon sy'n archwilio straeon unigolion sy'n byw gyda HIV heddiw.

Dechreuodd y prosiect Tair Llythyren ym mis Medi 2021 gyda gweithdai creadigol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Bu Nathaniel a’r actifydd Mercy Shibemba yn gweithio gyda myfyrwyr i greu’r gân gyntaf We learn, we know, we understand, yn ddatganiad o gynghreiriaeth a chefnogaeth gan bobl ifanc Caerdydd. Yn yr ail gân All These Dreams, bu Mercy yn cydweithio â’r gantores gyfansoddwraig o Gymru, Eädyth Crawford ac Intern Lleisiol WNO, Aliyah Wiggins, i adrodd hanes ei phrofiadau ei hun gyda HIV.

Ategwyd y rhaglen ysgrifennu caneuon allanol hon gan weithredu mewnol yn WNO megis polisi cwmni HIV newydd, penodi ‘Hyrwyddwyr HIV’ sefydliadol, a hyfforddiant staff a arweiniodd at WNO yn ennill nod siarter Positive Allies ym mis Rhagfyr 2022.

Yn ddiweddar cynhaliodd Fast Track Cymru ddigwyddiad yn Senedd Cymru lle cafodd y rhai a oedd yn bresennol flas ar ragflas o’r ffilm fer. Noddwyd y digwyddiad gan Buffy Williams MS sy'n gefnogwr cryf i weithredu HIV. Dywedodd Buffy:

‘Rydym wedi dod yn bell ers y 1980au a’r golygfeydd yn Philadelphia. Yng nghanol Cymru, nid dim ond rheidrwydd iechyd yw brwydro yn erbyn stigma HIV; mae'n alwad i dosturi, dealltwriaeth ac undod. Trwy ddileu’r stigma sy’n ymwneud â HIV gyda chefnogaeth prosiectau arloesol fel hyn gan Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn paratoi’r ffordd ar gyfer cymdeithas lle gall unigolion geisio profion, triniaeth a chefnogaeth gan elusennau fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a Fast Track Cymru heb ofni barn.’

Mae La mamma morta ar gael i’w weld ar sianel YouTube Opera Cenedlaethol Cymru a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk

DIWEDD

Nodiadau Golygyddol

Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.  Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol arobryn.  Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu

rhys.edwards@wno.org.uk