Y Wasg

Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â stori arswydus, gomig i Ganolfan y Celfyddydau Memo, y Barri, sy'n siŵr o godi gwallt eich pen

5 Mawrth 2020

Cynhyrchiad newydd Opera Ieuenctid WNO yw stori gomig, arswydus yr awdur a chyfansoddwr Judith Weir, sy'n cael ei berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo, y Barri, fis Ebrill yma.

Yn dilyn eu llwyddiant gyda Brundibár yn 2019, mae Opera Ieuenctid WNO yn dychwelyd gyda The Black Spider, cynhyrchiad prif raddfa sydd wedi ei ysbrydoli gan ffilmiau arswyd Hammer, wedi ei gyfarwyddo gan Rhian Hutchings gyda Dan Perkin yn arwain.

Mae'r rhaglen hyfforddi adnabyddus hon ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 25 mlwydd oed sydd wrth eu bodd yn canu. Nid oes angen ichi fod â phrofiad blaenorol; dim ond egni, brwdfrydedd, ymrwymiad a pharodrwydd i weithio gyda phobl ifanc eraill. Yn ogystal â Brundibár y llynedd, mae llwyddiannau blaenorol yn cynnwys cynhyrchiad 'bywiog a chynhyrfus' o Kommilitonen! (The Guardian *****) a chynhyrchiad o Paul Bunyan a enillodd wobr RPS.

Cafodd The Black Spider ei ysgrifennu'n benodol ar gyfer cantorion ifanc gan Judith Weir, Meistr Cerddoriaeth y Frenhines, ac mae’n archwilio melltithion dirgel, firysau marwol, ac wrth gwrs, arachnid drygionus.  Mae'n plethu hanes tywyll canoloesol Jeremias Gotthelf, Die Schwarze Spinne, gyda stori mewn arddull ddogfennol sy'n dilyn digwyddiadau gwir a rhyfedd a ddigwyddodd wedi i fedd Casimir IV gael ei dyrchu yn 1973.  Bydd y cynhyrchiad newydd yn cael ei berfformio gan gwmni o bron i 100 o gantorion Opera Ieuenctid rhwng 10 a 18 mlwydd oed, a fydd yn dod â'r ddwy stori i'r llwyfan.

Mae grŵp o bentrefwyr sydd wedi eu llethu gan yr Iarll drwg yn cael tasg amhosib i'w gwblhau, nes bod pry copyn gwyrdd yn ymddangos ac yn cynnig ateb i bentrefwraig ifanc, Christina. Er ei bod wedi dyweddïo â rhywun arall, mae Christina yn bargeinio ar gyfer ei phentref drwy addo i briodi'r pry copyn gwyrdd, ond pan dorra hi ei addewid - mae pry copyn du milain yn ymddangos ac yn bygwth bywydau pawb. Yn y cyfamser, yn y presennol, mae rhaglen ddogfen yn cael ei gwneud am ddarganfyddiad bedd Casimir IV, a'r pla ofnadwy a ddaeth ohono...

Dywedodd Judith Weir, yr Awdur a Chyfansoddwr: "Mae The Black Spider yn opera wedi'i hysgrifennu i bobl ifanc ei pherfformio. Mae'n cyfuno stori werin o'r Swistir gydag adroddiad newyddion o Wlad Pwyl. Mae'n lobsgóws o ddirgelwch, hanes, gwyddoniaeth, arswyd a chomedi, ac mae'n gofyn canu ac actio medrus. Mae'n newyddion cyffrous i mi y bydd perfformwyr ifanc dan arweiniad un o gwmnïau opera mwyaf blaenllaw'r byd, sef WNO, yn llwyfannu The Black Spider yn y Barri, a dymunaf noswaith gyffrous i bawb - perfformwyr a gwrandawyr."

Dywedodd Dan Perkin, y Cyfarwyddwr ac Arweinydd Cerddorol: "Mae gweithio gydag Opera Ieuenctid WNO dros y pymtheg mlynedd diwethaf wedi bod yn bleser pur. Yn adnabyddus ynghynt fel Clwb Canu WNO, a ddechreuodd gyda dim ond saith cyfranogwr, mae'r grŵp wedi datblygu i fod yn grŵp arbennig o hyd at 110 o bobl ifanc sy'n rhannu'r mwynhad y gall cerddoriaeth a'r theatr ei gyflwyno. Rydym wedi comisiynu gwaith newydd, wedi bod ar daith, ymweld â Phalas Buckingham ac wedi darlledu'n fyw ar BBC Radio 3 hyd yn oed. Roedd yn brofiad gwerth chweil cael mynd i'r afael â'r darn arbennig hwn, a rhoi'r driniaeth operatig lawn y mae'n ei haeddu iddo.

Bydd yr opera yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo, y Barri, ar ddydd Sadwrn 4 Ebrill am 5pm, gyda dau berfformiad ychwanegol - matinée (2pm) a dangosiad gyda'r nos (5pm) - ar ddydd Sul 5 Ebrill. Bydd y perfformiad yn para tua un awr.

Mae tocynnau ar gyfer y perfformiadau hyn nawr ar werth ac ar gael o Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau MEMO yn y Barri (01446 738622) neu arlein yn https://wno.org.uk/whats-on/th...


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf.  Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli 
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
  • Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan Sefydliad Garfield Weston ac Andrew Fletcher OBE. 
  • Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan Gibbs Charitable Trust, Partneriaid WNO, Paul a Marie Carson a The Seligman Gift
  • Mae WNO yn derbyn cymorth sylweddol gan The Hodge Foundation i gefnogi, yn benodol, ein rhaglen ysgolion eang yng Nghymru. Rydym yn falch o groesawu cantorion newydd i Opera Ieuenctid WNO o ganlyniad i'r rhaglen waith lwyddiannus hon.