Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn tynnu pythefnos o’r Tymor 2024/2025 a gyhoeddwyd yn flaenorol.
O ganlyniad i heriau ariannol cynyddol, mae’r Cwmni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gwtogi Tymor 2024/2025. Mae’r newidiadau hyn yn golygu na fydd y Cwmni bellach yn teithio i Bristol Hippodrome ym mis Chwefror 2025, ac ni fydd yn teithio i Venue Cymru, Llandudno ym mis Mai 2025. Nid yw hyn yn effeithio ar ein hymrwymiad i ymestyn ein cyrhaeddiad ledled Cymru, a bydd WNO yn dal i ymweld â Venue Cymru yn yr Hydref fel y bwriadwyd gyda chynhyrchiad newydd o Rigoletto ynghyd â Suor Angelica a Gianni Schicchi a pherfformiad o Ffefrynnau Opera.
Yn ogystal, ni fydd perfformiad o Rigoletto yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2025 fel y bwriadwyd, ond ni fydd hynny’n effeithio ar berfformiadau o’r cynhyrchiad newydd hwn yn yr Hydref.
Gwnaed y penderfyniad o ganlyniad i’r heriau economaidd sy’n wynebu pob sector, yn ogystal â gostyngiad sylweddol yng nghyllid cyhoeddus WNO, sydd wedi golygu bod angen i’r Cwmni gyflwyno arbedion cyllidebol sylweddol.
Mae WNO yn derbyn cyllid Sefydliad Portffolio Cenedlaethol (NPO) gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England (ACE) i ddarparu opera graddfa fawr, cyngherddau a gwaith yn y gymuned ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr a rhanbarthau yn Lloegr. Fel rhan o’u cyhoeddiadau diweddar ynghylch cyllido, mae WNO wedi derbyn gostyngiad o 35% (£2.2m) yn y cyllid a gaiff gan ACE, a gostyngiad o 11.8% yn y cyllid a gaiff gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2024/2025 yn erbyn y cais (£4.5m) ar gyfer cyllid digyfnewid.
Mae’r Cwmni wedi trafod y newidiadau i’r Tymor arfaethedig gyda’r Cynghorau Celfyddydau, yn ogystal â’r lleoliadau ym Mryste a Llandudno.
Meddai Christopher Barron, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro WNO:
‘Rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd o gyflwyno newidiadau i’n Tymor ar gyfer 2024/2025, a gwyddwn y bydd hynny’n siom fawr i’n cynulleidfaoedd ym Mryste a Llandudno. Bydd ein partneriaid yn y lleoliadau yn cysylltu gyda phawb sydd eisoes wedi archebu tocynnau i drefnu cyfnewid neu ad-dalu.
‘Mae ein sefyllfa ariannol newydd yn golygu ein bod yn wynebu’r her o gydbwyso cyllideb lai gan hefyd gynnal safonau artistig er mwyn darparu rhaglen gyffrous o berfformiadau a gweithgareddau ymgysylltu. Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, ond nid oes modd osgoi hynny dan yr amgylchiadau. Mae’r penderfyniadau wedi cael eu hystyried yn ofalus ac wedi cael eu trafod gyda’n lleoliadau a’r Cynghorau Celfyddydol.
‘Er ein bod yn anffodus yn colli wythnos yn Llandudno ym mis Mai, rydym ni’n falch ein bod yn dal i ymweld â Venue Cymru yn yr Hydref gyda’n cynhyrchiad newydd o Rigoletto a gyda Suor Angelica a Gianni Schicchi, yn ogystal â’n cyngerdd newydd a phoblogaidd, Ffefrynnau Opera. Rydym ni hefyd yn parhau i weithio ledled Cymru gyda’n rhaglen o gyngherddau a’n gwaith ymgysylltu cymunedol a fydd yn cynnwys prosiect creadigol gydag ysgolion ar draws Conwy yn 2024/2025.
‘Mae WNO yn cynrychioli Cymru ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â chreu a chyflawni prosiectau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i gyflawni’r gwaith hwn a sicrhau ein dyfodol hirhoedlog fel cwmni opera cenedlaethol Cymru.’
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Crynodeb o’r newidiadau
Mewn newid i’r amserlen a gyhoeddwyd, mae’r newidiadau canlynol bellach wedi cael eu gwneud:
- O ganlyniad i fater amserlennu yn yr Hydref, bydd perfformiad Ffefrynnau Opera yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 22 Medi 2024 yn symud i 7 Chwefror 2025
- O ganlyniad, nid fydd y perfformiad o Rigoletto yn cael ei gynnal ddydd Gwener 7 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
- Ni fydd taith i Bristol Hippodrome, gan olygu na fydd y perfformiadau o Rigoletto a The Marriage of Figaro a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer dydd Iau 20 Chwefror – dydd Sadwrn 22 Chwefror 2025 bellach yn digwydd
- Ni fydd taith i Venue Cymru, Llandudno ym mis Mai ar gyfer perfformiadau o Peter Grimes, The Marriage of Figaro a Play Opera LIVE a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer dydd Mercher 21 Mai – dydd Sadwrn 24 Mai 2025
Bydd y lleoliadau’n cysylltu gyda’r rhai sydd wedi prynu tocynnau i drefnu cyfnewid neu ad-daliad.
- Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac ysbrydoli.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/press
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
- Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg christina.blakeman@wno.org.uk
- Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu rhys.edwards@wno.org.uk
- Rachel Bowyer / Penny James, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu-swydd) rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk