Y Wasg

WNO yn ehangu rhaglen COVID Hir ledled Cymru

30 Ionawr 2023

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi heddiw bod ei raglen COVID Llesiant gydag WNO yn ehangu ledled Cymru. Bydd chwe bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn gallu cynnig y gwasanaeth adsefydlu i gleifion, drwy atgyfeiriad uniongyrchol i Wasanaethau COVID Hir y GIG.

Mae’r rhaglen yn rhannu technegau a strategaethau a ddefnyddir gan gantorion opera proffesiynol i gefnogi rheolaeth anadl, gweithrediad yr ysgyfaint, cylchrediad ac ystum.  Cyflwynir y sesiynau drwy Zoom er mwyn galluogi’r rhai sy’n byw gyda blinder i gael mynediad at y rhaglen heb unrhyw rwystrau o ganlyniad i leoliad daearyddol neu allu i fynychu wyneb yn wyneb.

Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar lesiant emosiynol cleifion. Mae’r sesiynau hyn yn cyflwyno’r cyfranogwyr i’r pleser o ganu, hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw gefndir cerddorol.  Maent hefyd yn cael eu cyflwyno i ffyrdd o ryngweithio ag eraill sydd efallai’n wynebu heriau tebyg gyda symptomau COVID hir.

Ers dechrau’r sesiynau ym mis Tachwedd 2021, mae’r adborth gan y cyfranogwyr wedi dangos gwelliannau mewn iechyd meddwl, gyda chynnydd mewn emosiynau cadarnhaol a hyder, a gostyngiad mewn teimladau o orbryder, iselder, gorfeddwl, a phanig. Yn ôl Gabby Curly, sy’n cymryd rhan yn Llesiant gydag WNO:

‘Yn gorfforol, cefais ymarferion anadlu ymarferol gan y rhaglen Llesiant gydag WNO er mwyn lleddfu tyndra yn y cyhyrau o amgylch fy asennau ac i’m helpu i ymlacio gyda fy anadlu. Yn emosiynol, roedd y cymorth a gefais yn gwneud i mi sylweddoli nad oeddwn ar ben fy hun. Yn y sesiynau, roedd fy ngofidiau’n diflannu ohona i a chefais bleser pur o gymryd rhan mewn canu. A does dim angen i chi allu canu’n dda o gwbl! Bellach mae gen i’r hyder i ganu’n uchel a pheidio â bod yn ymwybodol a ydw i’n canu mewn tiwn, yn syml oherwydd fy mod yn gwybod faint mae’n fy helpu i.’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

‘Rydym yn parhau i ddysgu mwy am effeithiau hirdymor COVID a chredwn mai ein dull o drin, cefnogi a rheoli pobl drwy ein model gwasanaeth unigryw yw’r ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer pobl sy’n profi COVID Hir. Mae hi wedi bod yn galonogol gweld llwyddiant y prosiect Llesiant gydag WNO a’r buddion sylweddol mae wedi ei ddarparu ar gyfer iechyd a llesiant pobl. Rwy’n falch bod y rhaglen hon am gael ei ehangu fel bod hyd yn oed mwy o bobl yn gallu cymryd rhan yn y prosiect i gefnogi eu hadferiad a’u hadsefydliad.’

Cefnogwyd y rhaglen arbennig hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r: Gronfa Loteri Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau, Iechyd a Lles, er mwyn bod o fudd penodol i bobl Cymru yn gorfforol ac yn feddyliol ac mae’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Dywedodd Cynhyrchydd WNO, April Heade:

‘Rydym yn gwybod bod y celfyddydau’n gwneud cyfraniad grymus i’n hiechyd a llesiant, ac rydym wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith gadarnhaol sylweddol mae’r sesiynau hyn wedi’i chael ar gyfranogwyr sydd wedi mynychu hyd yn hyn. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu ehangu’r rhaglen ymhellach ar hyd a lled y wlad gyda chefnogaeth gwasanaethau COVID Hir GIG Cymru, er mwyn gwella iechyd a llesiant cymaint o bobl ag y gallwn fel rhan o’u triniaeth gyffredinol.’

Mae’r rhaglen Llesiant gydag WNO wedi’i chynllunio ar y cyd â gweithwyr meddygol proffesiynol y GIG ac mae hi wedi’i dyfeisio mewn ymgynghoriad ag Opera Cenedlaethol Lloegr yn seiliedig ar eu prosiect ENO Breathe gwreiddiol. Mae sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Mae gwybodaeth bellach ar gael drwy: wno.org.uk/wellness-with-wno

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Mae Rhaglenni a gwaith Ymgysylltu WNO, a sefydlwyd yn y 1970au, wedi’u disgrifio gan gyllidwyr a rhanddeiliaid fel ‘arfer sy’n arwain y sector’. Mae’r gwaith yn chwarae rôl allweddol mewn cyflawni diben y cwmni i sbarduno cenhedlaeth newydd o unigolion sy’n mwynhau opera drwy weithio gyda phobl o gymunedau - yn arbennig y rheiny nad sydd efallai wedi dod ar draws opera o’r blaen neu yn wir sydd â mynediad cyfyngedig at ddarpariaeth fwy cyffredinol o’r celfyddydau. Mae’r rhaglen ddeinamig yn canolbwyntio ar gydweithio a chreu cyfleoedd i gymunedau awduro a chreu gwaith gydag WNO. Gan ddechrau gyda’r blynyddoedd cynnar hyd at bobl sydd wedi ymddeol, mae sesiynau WNO yn pontio’r cenedlaethau. Cynhelir gwaith cymunedol ar hyd a lled Cymru a Lloegr drwy sesiynau agored bron bob wythnos. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gweithiodd WNO gyda 58,000 o gyfranogwyr, ar hyd 74 prosiect, a chyrraedd 100,000 o bobl yn ychwanegol drwy raglenni digidol wedi’u teilwra.

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
  •  Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu rhys.edwards@wno.org.uk