Y Wasg

Dim modd i WNO deithio i Lerpwl o hyn ymlaen

22 Tachwedd 2022

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn bosib iddynt fynd â chynyrchiadau ar daith i Lerpwl o hyn ymlaen.

Gwnaed y penderfyniad yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd gostyngiad sylweddol yn yr arian cyhoeddus y bydd yn ei dderbyn. O ganlyniad uniongyrchol i hynny, mae angen i’r Cwmni wneud arbedion effeithlonrwydd cyllidebol.

Mae WNO yn cael cyllid Sefydliad Portffolio Cenedlaethol (NPO) gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England (ACE) i ddarparu opera graddfa fawr, cyngherddau a gwaith yn y gymuned ledled Cymru ac i saith dinas fawr a rhanbarth yn Lloegr. Mae’r cyhoeddiad diweddar ynghylch cyllido yn golygu y bydd WNO nawr yn wynebu gostyngiad o £2.2m (35%) yn y cyllid a gaiff gan ACE.

Dywedodd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO:

“Rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd iawn i dynnu Lerpwl oddi ar ein rhaglen deithio. Gwyddom y bydd hyn yn siom fawr i’n cynulleidfaoedd yn Lerpwl a Glannau Mersi, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ers ein perfformiadau cyntaf yn Lerpwl yn y Royal Court ym 1968, cyn symud i’r Liverpool Empire Theatre ym 1976 .

“Yn dilyn eu cyhoeddiad yn ddiweddar, rydyn ni nawr yn wynebu toriad sylweddol i’r cyllid a gawn gan ACE. Realiti hyn ydy nad oes gennym ddewis ond gwneud arbedion o ran costau a bydd hynny’n golygu gwneud penderfyniadau anodd. Mae’n drueni ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad i roi’r gorau i berfformio yn Lerpwl, ond wrth wneud y penderfyniad rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ystod eang o ffactorau a fydd yn ein helpu i arbed costau heb i hynny effeithio ar ansawdd ein gwaith.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cymryd nifer fawr o gamau i leihau ein costau, gan gadw cydbwysedd o ran cynhyrchu gwaith o’r safon artistig uchaf a chynnig rhaglen gyffrous o weithgareddau ymgysylltu. Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i gyflawni ein gwaith, ond bydd angen inni fynd ati’n ddiwyd i adolygu effaith costau cynyddol a thoriadau i’n cyllid wrth inni symud ymlaen.” 

DIWEDD

wno.org.uk

 

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Caiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England i ddarparu opera graddfa fawr, cyngherddau a gwaith yn y gymuned ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Gwnawn ein gorau i ddarparu profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg a chymunedol a’n prosiectau digidol hynod lwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac ysbrydoli.

Mae delweddau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho yn wno.org.uk/press

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â: