Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru barhau i deithio’r wlad yn ystod Tymor yr Hydref, mae rhaglen gyngherddau Cerddorfa WNO ar fin dechrau. Yn ystod y cyngherddau hyn bydd cantorion byd-enwog yn ymuno â’r Gerddorfa a hefyd bydd y Gerddorfa yn mynd â’i cherddoriaeth boblogaidd ar daith o amgylch y wlad.
Bydd y rhaglen yn dechrau gyda Cherddorfa WNO a’r tenor Nicky Spence ar gyfer cyngerdd dan arweiniad y maestro Carlo Rizzi yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. Bydd Nicky Spence yn canu Knoxville: Summer of 1915 gan Barber, cyn iddo berfformio’r brif rôl gydag WNO yn Peter Grimes yn 2025. Hefyd, bydd y rhaglen yn cynnwys yr Agorawd o Candide, sef opereta fywiog gan Leonard Bernstein, a Symffoni Rhif 9 The Great gan Schubert. Bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal ar 9 a 10 Tachwedd.
Ddydd Gwener 6 Rhagfyr, bydd Corws WNO yn perfformio ochr yn ochr â chantorion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghapel y Tabernacl, Caerdydd dan arweiniad Freddie Brown, Meistr y Corws WNO, a Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd y cyngerdd yn cynnwys opera, theatr gerdd, repertoire cysegredig, gweithiau corawl Cymreig a cherddoriaeth Nadoligaidd – ffordd berffaith i ddechrau tymor y Nadolig.
Yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr, bydd Cerddorfa WNO yn mynd ar daith gyda Syr Bryn Terfel, y bas-bariton enwog o Gymru, pan fydd yn mynd â’i sioe Nadolig arbennig iawn, ‘Nadolig Bryn’, i Lundain, Abertawe, Manceinion a Bryste. Bydd y cyngerdd yn cynnwys carolau Nadolig Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â chaneuon Nadolig a gweithiau Cerddorfaol poblogaidd. Bydd gwestai arbennig, sef y soprano Pumeza Matshikiza, yn ymuno â Syr Bryn a Cherddorfa WNO a bydd y perfformiadau’n cael eu harwain gan Paul Bateman.
Bydd y sioe ‘Nadolig Bryn’ yn cael ei pherfformio yn y Royal Festival Hall yn Llundain (16 Rhagfyr), yn Arena Abertawe (17 Rhagfyr), yn y Bridgewater Hall ym Manceinion (19 Rhagfyr) ac yn y Bristol Beacon (20 Rhagfyr).
I groesawu’r Flwyddyn Newydd, bydd Cerddorfa WNO yn llenwi’r lle drachefn gyda cherddoriaeth Fiennaidd o’r radd flaenaf yn ystod ei thaith gyngherddol i ddathlu’r Flwyddyn Newydd. Bydd David Adams, Arweinydd Cerddorfa WNO, yn arwain detholiad o waltsiau, polcas a ffefrynnau clasurol gan gyfansoddwyr fel Josef Strauss a Johann Strauss II, a bydd dau o Artistiaid Cyswllt diweddaraf WNO, sef Erin Rossington a Will Stevens, yn ymuno â’r Gerddorfa.
Bydd y daith gyngherddol yn dechrau yn Neuadd Fawr Abertawe ar 3 Ionawr cyn teithio i Southampton (4 Ionawr), Aberhonddu (5 Ionawr), Bangor (10 Ionawr), Y Drenewydd (11 Ionawr) a Truro (12 Ionawr), cyn i’r daith ddirwyn i ben gyda dau berfformiad yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ar 17 Ionawr.
Ym mis Mawrth, bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Neuadd Dora Stouzker ar gyfer cyngerdd dan arweiniad Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO. Bydd y fezzo-soprano, y Fonesig Sarah Connolly, yn ymuno â’r Cwmni cyn ei pherfformiadau yn Peter Grimes i ganu Lieder eines fahrenden gesellen (Caneuon Fforddolyn) gan Mahler. Hefyd, bydd y cyngerdd yn cynnwys Symffoni Rhif 8 anorffenedig Schubert, Symffoni Rhif 7 Sibelius ac Adagietto o Symffoni Rhif 5 Mahler.
Cynhelir dau berfformiad o’r cyngerdd yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ar 15 ac 16 Mawrth.
Ym mis Mehefin, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio ochr yn ochr â pherfformwyr uchel eu bri o’r West End a’r byd opera mewn dau gyngerdd yn y Grange Festival, Hampshire, dan arweiniad Karen Kamensek. Bydd Bernstein yn Broadway yn cynnwys rhai o gyfansoddiadau gorau’r cyfansoddwr enwog Leonard Bernstein, yn cynnwys West Side Story, Candide ac On the Town. Bydd y cyngherddau’n cael eu cynnal ar 26 a 29 Gorffennaf.
Bydd Cerddorfa WNO yn dirwyn ei blwyddyn i ben gyda Thaith Gyngherddol yr Haf ledled Cymru a De Lloegr dan arweiniad Tomáš Hanus. Bydd y Gerddorfa yn cael cwmni Rebecca Evans, y soprano o Gymru, a fydd yn canu aria gyngerdd Mozart Ah, lo previdi. Hefyd, bydd y rhaglen yn cynnwys un o’r gweithiau clasurol enwocaf, sef Symffoni Rhif 5 Beethoven. (Bydd Symffoni Rhif 3 Eroica Beethoven yn cael ei pherfformio yn lle Symffoni Rhif 5 yn Truro.)
Bydd taith yr Haf yn dechrau ar 2 Gorffennaf yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd cyn ymweld ag Aberystwyth (3 Gorffennaf), Y Drenewydd (4 Gorffennaf), Bangor (8 Gorffennaf), Aberhonddu (9 Gorffennaf), Southampton (10 Gorffennaf) a Truro (12 Gorffennaf).
Medd Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO:
“Pleser bob amser yw arddangos doniau ein cerddorion anhygoel ar y llwyfan ac ymweld â’n cynulleidfaoedd ledled y wlad gyda cherddoriaeth o’r radd flaenaf. Rydym yn ffodus dros ben eleni ein bod yn gallu perfformio sawl cyngerdd yn adeilad ysblennydd Neuadd Dora Stoutzker yng Nghaerdydd – ac y byddwn yn cael cwmni ein cyfeillion Nicky Spence, Sarah Connolly a Rebecca Evans – mewn cyngherddau a fydd yn siŵr o blesio a chyfareddu. Rydym ar dân eisiau eich gweld!”
https://wno.org.uk/cy/__home__
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol arobryn. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.
Mae delweddau cynhyrchu WNO ar gael i’w lawrlwytho ar https://wno.org.uk/cy/press
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gynyrchiadau WNO ar https://wno.org.uk/cy/__home__
- Cefnogir rôl Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, gan Marian a Gordon Pell
- Cefnogir Blaenwr Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
- Cefnogir Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
- Cefnogir Cadeiriau Cerddorfa WNO gan Gylch Prif Chwaraewyr
- Mae WNO yn ddiolchgar am gefnogaeth y Fwrsariaeth Shirley & Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richards Brooks, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsariaeth Eira Francis Davies, Bwrsariaeth WNO EL Schafer, Ymddiriedolaeth y Teulu Bateman, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ymddiriedolaeth Stanley Picker, Bwrsariaeth Chris Ball, a’r Teulu Parry tuag at ein Cynllun Artistiaid Cyswllt WNO.
- Cyflwynir Nadolig Bryn gan Temple Live Entertainment
I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu