- Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus yn dychwelyd i'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant.
- Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi yn arwain cyngerdd i ddathlu 70 mlynedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- Ym mis Rhagfyr, bydd WNO yn cyd-weithio â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ar gynhyrchiad o Messiah gan Handel.
- Bydd Cerddorfa WNO yn teithio i Academie Royale, Moroco am y tro cyntaf, i berfformio'r rhaglen Taith i Fienna cyn dychwelyd i deithio'r DU yn 2020
Mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn barod ar gyfer tymor newydd o gyngherddau a digwyddiadau arbennig, a fydd yn dod â 2019 i derfyn cyffrous wrth edrych ymlaen at 2020 gyda ‘Taith i Fienna’…
Ym mis Hydref, bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i’r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol, gyda Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, sydd wedi ennill clod mawr, yn arwain yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Yn cynnwys y sielydd enwog o’r Almaen, Daniel Müller Schott, bydd y perfformiad yn agor gyda Vltava o Má Vlast gan Smetana, ac yna i ddilyn campwaith symffonig Debussy La Mer ac yn cau gyda theyrnged ysbrydol Dvořák i'w famwlad, ei Goncerto Soddgrwth.
Dywedodd Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO, “Er ei bod eisoes yn adnabyddus am ei pherfformiadau operatig gwych, profwyd rhinweddau safon byd-eang Cerddorfa WNO lawer gwaith ar y llwyfan cyngerdd. Hoffwn estyn gwahoddiad cynnes, hyd yn oed i'r rhai na fyddent fel arfer yn ystyried mynd i gyngerdd symffonig, i ddod draw i brofi iaith ryngwladol cerddoriaeth. Yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol mis Hydref yma, gyda'n gilydd gallwn brofi'r bythol boblogaidd Vltava gan Smetana. Byddwch hefyd yn clywed La Mer gan Debussy, sy'n dangos gallu cerddoriaeth i baentio lluniau gyda dwyster arbennig. Yna byddwn yn gorffen gydag un o’r darnau gorau a ysgrifennwyd erioed ar gyfer y soddgrwth - Concerto Soddgrwth Dvořák, yn cael ei berfformio gan y seren soddgrwth Rhyngwladol Daniel Müller-Schott. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael rhannu peth o gerddoriaeth fy mamwlad gyda chi."
Ym mis Tachwedd, bydd Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi yn arwain Cerddorfa WNO mewn cyngerdd gala arbennig iawn i ddathlu 70 mlynedd ers sefydlu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymunwch â chantorion ifanc rhyfeddol Ysgol Opera David Seligman mewn noson anhygoel o olygfeydd ac ariâu yn arddangos y gorau o'r dalent operatig sy'n dod i'r amlwg.
Yna bydd y Gerddorfa yn edrych tuag at dymor y Nadolig, ac yn teithio i Rabat, prifddinas Moroco, ar gyfer dau gyngerdd, y cyntaf ohonynt, yn yr Academie Royale. Yn dilyn hynny, bydd yna ddigwyddiad ar raddfa lawn yn Theatr Mohammed V yn cynnwys y soprano Mary Elizabeth Williams a'r tenor Gwyn Hughes Jones. Bydd y Gerddorfa a'r unawdwyr yn cael eu harwain gan Carlo Rizzi.
Ym mis Rhagfyr, bydd y Gerddorfa hefyd yn gweithio gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ar gynhyrchiad o Messiah gan Handel. Yn draddodiad Nadolig hanfodol i gariadon cerddoriaeth glasurol, daw'r portread emosiynol hwn o'r geni yn fyw trwy un o'r gweithiau corawl a drysorir fwyaf yn niwylliant y Gorllewin.
Pa ffordd well i ddechrau 2020 na gyda Thaith i Fienna? Bydd Cerddorfa WNO yn dathlu peth o gerddoriaeth orau Ewrop o dan gyfarwyddyd yr Arweinydd Cerddorfa David Adams. Bydd y gynulleidfa yn cael ei chludo i bob cwr o Ewrop gydag ystod o weithiau gan Mozart, Offenbach, Dvořák, Brahms a Strauss. Yn ymuno â'r Gerddorfa unwaith eto fydd y soprano, Mary Elizabeth Williams, yn dilyn ei llwyddiant diweddar mewn cynyrchiadau o Un ballo in maschera, La forza del destino a Die Fledermaus. Bydd y rhaglen Taith i Fienna hefyd yn cael ei pherfformio gan y Gerddorfa ym Moroco.
Dywedodd Peter Harrap, Rheolwr Cerddorfa WNO, “Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Cerddorfa WNO yn cyflwyno cyngherddau cerddorfa operatig, symffonig a siambr hynod gyfoethog ac amrywiol ledled Cymru a Lloegr. Ochr yn ochr â'n gwaith ensemble siambr a'n perfformiadau i ysgolion a theuluoedd, mae Cerddorfa WNO yn perfformio ar gyfer portffolio helaeth o leoliadau, hyrwyddwyr a gwyliau. Rydym yn falch iawn i fod yn ymweld â Moroco ym mis Rhagfyr, a fydd yn ymestyn proffil rhyngwladol cynyddol Cerddorfa WNO. Bydd yr ymweliad hwn yn dilyn ein partneriaeth lwyddiannus â Dubai, a sefydlwyd mewn Cyngerdd Blwyddyn Newydd yn 2015, a baratôdd y ffordd ar gyfer dau dymor arall o opera WNO yn yr Emiraethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyngherddau teulu Cerddorfa WNO hefyd wedi ymddangos fel rhan o daith y cwmni i Swltaniaeth Oman a Gŵyl Hong Kong. Mae WNO wedi ymrwymo i ehangu proffil cyngerdd y cwmni ac rydym wrth ein bodd ein bod yn arloesi perthynas ffres â Moroco.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk
Manylion Llawn
Cyfres o Gyngherddau Rhyngwladol
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd - Sul 27 Hydref, 3.00pm
Arweinydd Tomáš Hanus
- Smetana Má Vlast 'Vltava'
- Debussy La Mer
- Dvořák Concerto Soddgrwth Op 104
Dathlu 70 mlynedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd - nos Wener 15 Tachwedd 2019, 7.30pm
Arweinydd Carlo Rizzi
Cantorion Ysgol Opera David Seligman
Morocco
Cyngerdd, yr Academi Frenhinol, Rabat – dydd Mercher 4 Rhagfyr
Digwyddiad Gala Opera, Theatr Genedlaethol, Rabat – Dydd Iau 5 Rhagfyr
Rhaglen Taith i Fienna (rhestrir isod)
Messiah | Handel
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd - Mercher 11 Rhagfyr, 7.30pm
Cerddorfa WNO a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Arweinydd Christoph Poppen
Soprano Soraya Mafi
Mezzo Madeleine Shaw
Tenor Trystan Llŷr Griffiths
Bas James Platt
Taith i Fienna
Neuadd St George Bryste - nos Wener 3 Ionawr, 7.30pm
Y Neuadd Fawr, Abertawe - nos Sadwrn 4 Ionawr, 7.30pm
Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro - nos Fercher 8 Ionawr, 7.30pm
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd - nos Iau 9 Ionawr, 7:30pm
Pontio, Bangor - nos Wener 10 Ionawr, 7.30pm
Theatr Hafren, y Drenewydd - dydd Sadwrn 11 Ionawr, 4.00pm
Theatr Glan yr Afon, Casnewydd - nos Fawrth 14 Ionawr, 7.30pm
Rhaglen
- Offenbach Orpheus in the Underworld: Agorawd
- Offenbach La Grande-Duchess de Gérolstein: Ah! Que j'aime les militaires
- Faure Pavane
- Faure Apres un reve
- Mozart Eine kleine Nachtmusik Symudiad 1
- Strauss Morgen
- Dvořák Slavonic Dance Op 72 Rhif 7
- Brahms Hungarian Dance Rhif 1 mewn G leiaf
EGWYL
- Dvořák Songs My Mother Taught Me
- Strauss Magyar Polka
- Strauss Die Fledermaus: Czardas
- Strauss Emperor Waltz
- Lehar The Merry Widow: Vilja
- Strauss The Blue Danube
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â Rachel Bowyer neu Penny James, Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) ar 029 20635038 neu rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk neu Rhys Edwards, Swyddog y Wasg, ar 029 2063 5037 neu rhys.edwards@wno.org.uk
- Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO gan Marian & Gordon Pell
- Mae cyngherddau WNO sy'n rhan o'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn cael eu cefnogi gan Mathew a Lucy Prichard.