Opera Ieuenctid WNO yn dathlu ei 20fed pen-blwydd, gyda chynhyrchiad opera dwyieithog newydd ac arloesol
7 Ebrill 2025Mae Opera Cenedlaethol Cymru ar fin nodi carreg filltir sylweddol y mis hwn, gan ddathlu dau ddegawd o’i rhaglen Opera Ieuenctid WNO clodfawr gyda chomisiwn dwyieithog newydd ac arloesol sy’n dangos talent ifanc ragorol.
Mae Panig! Attack!! Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman, a gyfansoddwyd gan Gyfarwyddwr Cerdd Opera Ieuenctid Cymru, Dan Perkin, gyda libreto gan Bethan Marlow, yn dilyn taith dau griw gwahanol iawn sydd â syniadau ecsentrig iawn ynghylch y byd. Caiff ei berfformio yn y New Theatre, Caerdydd, ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill, gyda pherfformiadau yn y prynhawn a gyda’r nos, am 2:30pm a 7:30pm.
Mae’r opera newydd arloesol hon yn cynnwys aelodau presennol a chyn-aelodau Opera Ieuenctid WNO, gan ganu yn Gymraeg a Saesneg gydag uwchdeitlau dwyieithog. Mae ei phrif gast yn cynnwys y soprano o Gymru, Jessica Robinson, yn chwarae rhan Panicydd, a’r bariton o Gaerdydd, Mica Liberta-Smith yn chwarae rhan Attacker. Mae’r perfformiad hefyd yn cynnwys y perfformiwr Iaith Arwyddion Prydain, Sarah Adedeji, sy’n chwarae rhan Tali.
Yn herio ei gilydd i feddwl yn wahanol a gweld y byd o ogwydd newydd, mae Panig! Attack!! yn stori am oroesi mewn argyfwng byd-eang. Yn perfformio i gyfeiliant Cerddorfa WNO, mae hon yn stori galonogol sydd nid yn unig yn arddangos talent ragorol cyfranogwyr Opera Ieuenctid WNO ac yn dathlu’r ymrwymiad mae ei haelodau wedi ei ddangos dros y blynyddoedd, ond mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd canfod cysylltiad, gobaith, a chyfeillgarwch.
Mae Panig! Attack!! Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman yn cynnwys 60 aelod presennol o Opera Ieuenctid WNO o oedran 10-18, deg perfformiwr 18 oed, yn ogystal â chyn-aelodau, a phlant ysgol oed 8-11 a gafodd eu recriwtio o Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn ym Meddau.
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys: Y Cyfansoddwr Dan Perkin, y Libretydd Bethan Marlow, yr Arweinydd Olivia Clarke, y Cyfarwyddwr Hannah Noone, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Juliette Manon, April Dalton y Dylunydd Gwisgoedd a Set, Ceri James y Dylunydd Golau, y Cyfarwyddwr Symudiadau Krystal S Lowe, y Cyfarwyddwr Lleisiol Siân Cameron, y Cynhyrchydd Paula Scott.
Dyma’r tro cyntaf i Opera Ieuenctid WNO greu cymeriad BSL o fewn un o’i operâu, sy'n cael ei pherfformio gan y Perfformiwr BSL, Sarah Adedeji. Mae’r tîm wedi cael eu harwain yn greadigol gan Gwmni Theatr Taking Flight, mewn ymarferion a pherfformiadau gyda Dehonglydd Ymarfer a Llwyfan BSL/Saesneg/Cymraeg Cathryn McShane-Kouyaté.
Dywedodd Dan Perkin “Bu’n bleser pur bod yn rhan o Opera Ieuenctid WNO dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan gwrdd a chydweithio â chymaint o bobl ifanc. Roedd dod â chyfranogwyr ddoe a heddiw ynghyd, a lleisiau newydd hefyd, yn ffordd berffaith i ddathlu’r garreg filltir hon ar ein pen-blwydd.
“Mae Bethan wedi gwneud gwaith gwych yn ymgorffori syniadau gan ein pobl ifanc, ac oherwydd hynny, byddwch yn barod i fwynhau hiwmor, ychydig o’r absẃrd a hyd yn oed sombi neu ddau! Ond, o dan y cyfan mae yna stori deimladwy am wrthdaro, a ffolineb y gwrthdaro hwnnw, a sut ydym yn aml iawn yn canolbwyntio’n anghywir ar y pethau sydd yn ein gwahaniaethu ac yn ein dallu, yn hytrach na’r pethau sydd yn gyffredin rhyngom. Mae’r grŵp wedi rhoi cymaint o egni i mewn i’r cynhyrchiad hwn, a gallwch ddisgwyl perfformiad hapus ac egnïol, sydd mor nodweddiadol o waith Opera Ieuenctid WNO ers blynyddoedd lawer.”
Mae gan Opera Ieuenctid WNO enw da iawn am ei chynyrchiadau, gan lwyddo i lansio gyrfaoedd amryw o gantorion opera a chantorion proffesiynol yn y maes, gan gynnwys Natalya Romaniw, Samantha Price a Jordan Lee Davies. Mae un prif beth yn sicrhau bod Opera Ieuenctid yn unigryw, sef ei hymagwedd gynhwysol - nid yw clyweliadau yn ofynnol ac mae cymorth ar gael gyda bwrsariaethau a theithio, ac mae’r rhaglen yn croesawu pobl ifanc o bob cefndir.
Mae prif gynyrchiadau Opera Ieuenctid WNO yn cynnwys The Very Last Green Thing (2024),
The Pied Piper & The Crab that Played with the Sea (2023), The Black Spider (2022) gan Judith Weir, Cherry Town, Moscow (2022) gan Shostakovich, a Brundibár (2019), Kommilitonen!
(2016) a Paul Bunyan (2013). Mae’r cynyrchiadau cryfion hyn wedi ennill cymeradwyaeth pum seren yn y cyfryngau cenedlaethol, (Brundibár), wedi cael enwebiad ar gyfer Gwobr South Bank Sky Arts, (Paul Bunyan) ac wedi ennill gwobrau gan y Wales Music Theatre (Kommilitonen!) a’r Gymdeithas Ffilharmonig Genedlaethol (Paul Bunyan).
Dywedodd Paula Scott, Cynhyrchydd yn y WNO: “Am ffordd wych o ddathlu’r gamp hon gan arddangos y Cwmni Opera Ieuenctid aml-dalentog, gan weithio gyda’r Perfformiwr BSL anhygoel Sarah Adedeji, ochr yn ochr â’r Cwmni Theatr hynod, Taking Flight!
“Sefydlwyd Opera Ieuenctid WNO yng nghanol yr 1990au er mwyn rhannu ein hoffter o opera gyda chantorion ifanc awyddus. Ein nod erioed fu creu llu o brofiadau a chyfleoedd newydd sydd yn ddifyr ac yn gyffrous, Nid dim ond perfformiad yw "Panig! Attack!!" - mae’n ddathliad o ddau ddegawd o feithrin doniau artistig ifanc. Mae opera yn herio cynulleidfaoedd i feddwl yn wahanol, gan gyflwyno stori dwymgalon o oroesi, cysylltiad a chyfeillgarwch wrth wynebu heriau byd-eang.”
Un elfen yn unig o raglen y WNO i ddatblygu doniau yw Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, i feithrin doniau opera ar gyfer y dyfodol. Mae rhaglen Artist Cyswllt y WNO yn rhoi’r cyfle i raddedigion diweddar sydd wedi arbenigo mewn unrhyw faes perfformio neu astudiaethau lleisiol, i ddatblygu eu sgiliau perfformio a’u gyrfa mewn cwmni opera.. Mae Harriet Eyley, Rebecca Afonwy Jones, a Wynne Evans yn rhai o’r Artistiaid Cyswllt blaenorol.
Mae tocynnau ar gyfer Panig! Attack!! ar werth nawr o’r newtheatrecardiff.co.uk. Cost y tocynnau yw £25, a £15 i bawb dan 16 mlwydd oed. Am ragor o wybodaeth am y cynhyrchiad, ewch i wno.org.uk/panigattack
Cefnogir Opera Ieuenctid WNO a The Seligman Performance gan The Seligman Gift, The Clive Richards Foundation, The Gibbs Trust, Andrew Fletcher, Cyfeillion a Phartneriaid WNO. Ceir rhagor o wybodaeth am Opera Ieuenctid WNO ar wefan y WNO.
DIWEDD
Ar gyfer unrhyw ymholiadau gan y wasg, ffotograffau, neu gyfweliadau, cysylltwch ag: Elin Rees, Ymgynghorydd Cyfathrebu |comms@wno.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press