Cynhyrchiad newydd Opera Ieuenctid WNO yn rhoi blaenoriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol
19 Mai 2023- Bydd mwy nag 80 o gantorion ifanc yn cymryd rhan mewn sioe gerddorol ecogyfeillgar
- Mae’r perfformiad yn cyfuno dwy stori glasurol, sef hanes enwog y Pibydd Brith ac un o storïau annwyl Rudyard Kipling o blith ei gasgliad Just So
Yn ddiweddarach y mis hwn bydd Opera Ieuenctid WNO yn cyflwyno sioe flynyddol, gan ganolbwyntio ar leihau ôl troed carbon perfformiadau byw.
Bydd mwy nag 80 o gantorion ifanc yn cymryd rhan yn The Pied Piper of Hamelin a The Crab That Played With The Sea, sef cynhyrchiad a fydd yn defnyddio llawer o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Mae nifer fawr o’r gwisgoedd a’r propiau yn eitemau a oedd yn eiddo i’r cwmni eisoes, neu’n eitemau a ddefnyddiwyd yng nghynyrchiadau blaenorol WNO ac a addaswyd ar gyfer y cynhyrchiad hwn.
Sefydlwyd Opera Ieuenctid WNO yng nghanol y 1990au fel ffordd i’r Cwmni allu rhannu ei gariad at opera gyda darpar gantorion ifanc. Mae’n rhaglen hyfforddi wobrwyol ar gyfer pobl ifanc 10-25 oed sydd wrth eu bodd yn canu ac yn perfformio.
Mae’r perfformiad eleni yn cyfuno hanes enwog y Pibydd Brith gyda stori glasurol gan Rudyard Kipling o blith ei gasgliad Just So. Mae The Pied Piper of Hamelin yn chwedl oruwchnaturiol gyda pheth dychan. Mae’n sôn am y modd y ceir gwared â llygod mawr o dref gyda chymorth pib hud. Yna ceir The Crab That Played With The Sea, sef addasiad o stori enwog Kipling yn sôn am granc drwg sy’n dysgu sut i ymddwyn mewn modd mwy diymhongar.
Roedd creu cynhyrchiad ecogyfeillgar yn flaenoriaeth i’r Dylunydd Céleste Langrée ar y cyd â’r Goruchwylydd Gwisgoedd Bea Viña. Eu nod oedd annog yr arfer o ddefnyddio eitemau ‘ail law’ yn ogystal ag addasu propiau a oedd yn archif WNO. Medd Céleste:
‘Fel dylunydd, mae hyn yn her ymwybodol imi o’r cychwyn cyntaf. Rydw i wrth fy modd bod y rhan fwyaf o’n gwisgoedd yn rhai ail law. Daeth llawer ohonyn nhw o siopau elusen yma yng Nghaerdydd, a chafodd rhai eraill eu hailddefnyddio ar ôl dod o hyd iddyn nhw yng nghasgliad WNO. O ran y propiau, fy nod oedd ailddefnyddio cynifer â phosibl.’
Yn ogystal â chanu ac actio yn y cynhyrchiad hwn, bydd gofyn i’r cast ifanc (10-18 oed) ddefnyddio amrywiaeth o bypedau – ffordd o ddod â chymeriadau hynod liwgar ar y llwyfan. Yn achos rhai o’r pypedau, fel y cranc enfawr, rhaid cael cynifer â phedwar o gyfranogwyr ar y tro i’w weithredu, a chaiff mynegiant ei wyneb a’i symudiadau unigol eu rheoli gan berfformwyr ar wahân, gyda phawb yn perfformio fel un.
Yn The Pied Piper of Hamelin, mae’r cyfranogwyr wedi gwneud eu pypedau eu hunain trwy ddefnyddio hen hosanau er mwyn creu’r argraff bod miloedd o lygod mawr yn gwibio ar draws y llwyfan. Cafodd yr holl lygod eu llunio gan y perfformwyr, a gellir dweud eu bod yn gymeriadau ynddynt eu hunain. Mae hyn yn ychwanegu elfen fwy personol a chreadigol at y cynhyrchiad, gan barhau hefyd ag ymdrechion amgylcheddol y sioe trwy ddefnyddio deunyddiau sy’n deillio o hen ddillad a fwriwyd heibio.
Medd Céleste: ‘Addasu, rhannu ac ailgylchu hen rannau o setiau, hen bropiau neu hen wisgoedd – dyna sut y dylai pethau fod yn y diwydiant. Dyma enghraifft wych o’r modd y gallwn ailystyried ein safbwyntiau ynglŷn â pherfformiadau, a’u gwneud yn fwy ecogyfeillgar.’
Bydd The Pied Piper of Hamelin a The Crab That Played With The Sea yn cael eu perfformio yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 27 a 28 Mai. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac ysbrydoli.
Gellir lawrlwytho delweddau cynhyrchu WNO ar https://wno.org.uk/cy/press
I gael rhagor o wybodaeth am gynyrchiadau WNO, edrychwch ar https://wno.org.uk/cy/__home__
- Mae WNO yn cydnabod rhodd hael y diweddar David Seligman a Rhodd Philippa a David Seligman
I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)