Y Wasg

Anhrefn direidus a chariad trasig Tymor yr Hydref WNO

11 Awst 2021
  • Ymddangosiadau cyntaf â’r Cwmni i'r cyfarwyddwr Lindy Hume, y dylunydd Isabella Bywater a'r aelodau cast Alexia Voulgaridou a Leonardo Caimi, gyda Joyce El-Khoury yn dychwelyd mewn cynhyrchiad newydd o Madam Butterfly
  • Cynhyrchiad clasurol Rossini yn dathlu 35 mlynedd
  • Cyfres o sgyrsiau digidol ac arddangosfa yn archwilio themâu Madam Butterfly
  • Perfformiad gan Gerddorfa WNO yng Nghyfres Glasurol Caerdydd Neuadd Dewi Sant.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi manylion llawn Tymor yr Hydref 2021 y Cwmni, sy'n cynnwys cynhyrchiad newydd o Madam Butterfly gan Puccini a chynhyrchiad hynod boblogaidd WNO o The Barber of Seville gan Rossini. Mae cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau digidol i archwilio themâu Madam Butterfly wedi'u cynllunio hefyd.

The Barber of Seville

Bydd y Tymor yn agor gyda chynhyrchiad gwreiddiol 1986 Giles Havergal o The Barber of Seville gan Rossini, gyda Giles yn dychwelyd fel cyfarwyddwr a Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, yn arwain. Mae'r cynhyrchiad hwn yn dathlu 35 mlynedd, a'r tro diwethaf iddo gael ei berfformio oedd gan WNO yn 2011 gydag Andrew Shore - sy'n dychwelyd fel Dr Bartolo yr Hydref hwn. Bydd Nicholas Lester yn dychwelyd i'r Cwmni fel un o gymeriadau mwyaf lliwgar y byd opera, Figaro, a bydd Nico Darmanin yn dod â'r merchetwr lliwgar, Iarll Almaviva, yn fyw unwaith eto. Bydd Heather Lowe yn dychwelyd i WNO fel Rosina, yn dilyn ei pherfformiad cyntaf i'r Cwmni yn La Cenerentola gan Rossini yn 2018, a bydd Keel Watson yn perfformio am y tro cyntaf i WNO fel Basilio a The Bonze yn Madam Butterfly.

Madam Butterfly

Bydd y cynhyrchiad newydd o Madam Butterfly, wedi'i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr o Awstralia Lindy Hume a'i arwain gan Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi, yn archwilio'r themâu sy'n berthnasol i gymdeithas yn stori glasurol Puccini, gyda'r gerddoriaeth hyfryd yn gefnlen i'r opera hynod boblogaidd hon.

Wedi'i osod mewn dyfodol dystopaidd lle mae cariad yn rhywbeth gwerthfawr, mae'r cynhyrchiad newydd hwn o'r opera yn driw i sgôr deimladwy Puccini ac yn dangos mor berthnasol yw'r stori i gymdeithas hyd heddiw. Mae'r set a'r gwisgoedd wedi'u dylunio gan Isabella Bywater, sy'n ddylunydd hynod lwyddiannus. Bydd y dylunydd goleuo, Elanor Higgins, yn dychwelyd i WNO yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf â’r Cwmni yn 2018 gyda'r opera swffragetiaid, llawn egni, Rhondda Rips It Up!

Bydd y soprano, Joyce El-Khoury, yn dychwelyd i WNO ac yn perfformio rhan Cio-Cio San am y tro cyntaf. Mae'n rhannu'r rôl honno gydag Alexia Voulgaridou, sy'n perfformio am y tro cyntaf i WNO. Mae Alexia yn westai rheolaidd yn nifer fawr o dai opera clodwiw Ewrop, a'i pherfformiad cyntaf oedd yn chwarae'r brif ran yn Madam Butterfly yn Hamburg State Opera yn 2012. Hefyd yn perfformio am y tro cyntaf i'r Cwmni y mae Leonardo Caimi fel Pinkerton a Neil Balfour fel Prince Yamadori. Mae Leonardo wedi cael ei ddisgrifio fel un o denoriaid mwyaf clodfawr ei genhedlaeth, ac mae wedi perfformio yng Ngŵyl Salzburg, Teatro Real ym Madrid, Bavarian State Opera ym Munich a'r Royal Opera House Covent Garden lle y perfformiodd am y tro cyntaf yn nhymor 2018/2019. Mae Neil yn un o raddedigion y National Opera Studio ac ef oedd y canwr opera cyntaf i ganu yng Ngŵyl Glastonbury yn yr 'Astrolabe Tent'. Mae rhan Pinkerton yn cael ei rhannu gyda Peter Auty a berfformiodd gyda'r Cwmni ddiwethaf yng nghynhyrchiad 2019 Jo Davies o Carmen. Mae rhan Suzuki hefyd yn cael ei rhannu rhwng Anna Harvey a Kezia Bienek. Yn cwblhau'r cast y mae Tom Randle a Mark Stone.

Gan barhau ag ymrwymiad WNO i ddatblygu doniau, bydd y Cymrawd Weston Jerwood, Gareth Chambers yn ail gyfarwyddwr cynorthwyol ar gyfer Madam Butterfly. Mae Artist Cyswllt WNO, Adam Gilbert, wedi cael ei gastio fel dirprwy ar gyfer Pinkerton yn Madam Butterfly ac Isabelle Peters fel ail gast a dirprwy ar gyfer Berta yn The Barber of Seville.

Dywedodd Lindy Hume, cyfarwyddwr Madam Butterfly: "Dydy hwn ddim yn ddigwyddiad arferol o bell ffordd. Mae'r 18 mis diwethaf yn enwedig wedi ein gadael ni'n hiraethu am gysylltiad â phobl drwy berfformiad byw, yn arbennig cerddoriaeth fyw. Mae'n beth hynod gyffrous meddwl am y foment honno pan gawn ni ailgysylltu ag artistiaid a chynulleidfaoedd bendigedig Opera Cenedlaethol Cymru drwy gynhyrchiad newydd o Madam Butterfly gan Puccini - gwaith llawn prydferthwch a chreulondeb. Yn y cyfnod hwn o gymhlethdod, ansicrwydd a newid, braf yw cael mynd ar y daith greadigol hon gyda'r cast a'r tîm yn WNO wrth inni ailymweld â'r opera hynod boblogaidd hon, a'i hailddychmygu.

Dyma a ddywedodd Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO: "Daw stori, drama a chymeriadau Madam Butterfly yn fyw drwy gerddoriaeth Puccini, sydd mor onest, bendant ac eglur. Dyma pam y bydd y darn hwn bob amser yn teimlo'n berthnasol a modern i mi, a dyma pam mae wedi goroesi treigl amser. Rwy'n credu bod yr opera hon, a Cio-Cio San yn arbennig - gyda'i chymeriad cryf a chymhleth, yn siarad yn benodol â phob cenhedlaeth newydd o ddilynwyr opera. Mae hud Puccini yn ein harwain wrth inni gamu i mewn i fyd, emosiynau a theimladau merch sy'n sefyll ar ei phen ei hun yn erbyn pawb ond sy'n glynu wrth y dewisiadau y mae wedi'u gwneud yn enw cariad. Dyma'r hud rwy'n gobeithio ei rannu â chynulleidfa WNO.".

Sgyrsiau a gweithgareddau cysylltiedig

Bydd cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau digidol i archwilio themâu Madam Butterfly ar gael drwy gydol mis Medi. Mae'r cynnwys wedi'i ysbrydoli gan faterion sy'n berthnasol i stori'r opera yn y byd sydd ohoni. Yn rhan o'r rhaglen, cynhelir gweminarau cyhoeddus ar y themâu canlynol: Caethwasiaeth Fodern, Imperialaeth a Gwladychiaeth, ac Ailddyfeisio'r Naratif. Bydd y trafodaethau'n cael eu harwain gan Gyfarwyddwr Cyffredinol WNO Aidan Lang; Kim Ann Williamson MBE, Arweinydd Rhaglen Amcanion Strategol ar gyfer Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru a chadeirydd Grŵp Cyflawni Hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern y DU; a Jude Kelly CBE, sylfaenydd The WOW Foundation.

Cerddorfa WNO

Y tu hwnt i'r brif lwyfan, bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant yng Nghyfres Glasurol Caerdydd (Cyfres o Gyngherddau Rhyngwladol Caerdydd yn flaenorol), mewn perfformiad ar 21 Tachwedd dan faton Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO. Bydd ei gydwladwr, y pianydd Lukáš Vondráček, yn perfformio Concerto Piano Rhif 2 Rachmaninov mewn rhaglen sydd hefyd yn cynnwys Sarká o Má vlast gan Smetana a Symffoni Rhif 6 Tchaikovsky, Pathétique. Hefyd yr Hydref hwn, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio mewn dwy Gala Opera a gynhelir gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gydag Ysgol Opera David Seligmann CBCDC, dan Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi, yn Neuadd Dora Stoutzker yng Nghaerdydd.

Ym mis Ionawr 2022, bydd Cerddorfa WNO yn ailgychwyn taith flynyddol y Cyngerdd Blwyddyn Newydd o gwmpas Cymru a de-orllewin Lloegr yn ei rhaglen o uchafbwyntiau Fiennaidd dan gyfarwyddyd David Adams, Cyngerddfeistr WNO.

Prosiectau a Gweithgareddau Ymgysylltu

Mae rhaglen WNO i agor y drws i fyd opera ac ysbrydoli pobl ifanc yn parhau gyda chyfres o gyngherddau ysgol yn ystod Tymor yr Hydref yng Nghaerdydd, Birmingham a Southampton, ochr yn ochr â'r brif daith. Mae'r cyngherddau hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad o gyngerdd cerddorfaol byw, ac i lawer ohonynt dyma eu cyflwyniad cyntaf i opera a cherddoriaeth glasurol. Ynghyd ag unawdwyr, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio Largo al Factotum o The Barber of Seville gan Rossini, Habanera o Carmen gan Bizet a Cat Duet Rossini, yn ogystal â sawl darn poblogaidd arall.

Prosiect Covid Hir

Yr Hydref hwn, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn treialu rhaglen mewn partneriaeth â byrddau iechyd ledled Cymru, ar gyfer cleifion Covid hir yng Nghymru. Bydd yn cefnogi adferiad corfforol, yn adfer llesiant meddyliol ac emosiynol, ac yn lleihau gorbryder. I ddechrau, bydd y Cwmni'n cydweithio â thri bwrdd iechyd yng Nghymru ac mewn ymgynghoriad, gyda chefnogaeth English National Opera, i gyflwyno rhaglen sy'n defnyddio technegau canu ac anadlu y mae cantorion opera proffesiynol yn eu defnyddio, i leihau diffyg anadl, cefnogi cyfranogwyr i ailddysgu anadlu llengigol a'u harfogi i barhau â'r gwaith hwn gartref. Ceir tystiolaeth fod canu'n cael effaith gadarnhaol ar lesiant, a nod y rhaglen yw sicrhau buddion meddyliol a meddygol i'r rhai sy'n cymryd rhan. Y bwriad yw parhau â'r cynllun hwn gyda rhagor o fyrddau iechyd a chyrraedd cynifer o gleifion covid hir â phosib. Cefnogir y rhaglen hon gan grant o gronfa newydd Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae WNO yn un o 9 sefydliad celfyddydau sydd wedi derbyn y grant hwn i gefnogi prosiectau creadigol o safon uchel sy'n dod â buddion iechyd a llesiant i bobl Cymru.

Gellir cael gwybodaeth ynghylch cynyrchiadau WNO yn wno.org.uk 

Diwedd


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Fe'i hariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu graddfa fawr, cyngherddau a gwaith estyn allan ledled Cymru ac mewn rhanbarthau mawr yn Lloegr. Rydym yn darparu profiadau trawsnewidiol i bobl o bob oed a chefndir drwy ein rhaglen addysg ac estyn allan a'n prosiectau digidol gwobrwyedig. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol fod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac ysbrydoli.
  • Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gael dychwelyd i'r llwyfan a pherfformio ar gyfer cynulleidfaoedd eto. Mae'r Cwmni wedi rhoi nifer fawr o fesurau diogelwch ac asesiadau risg ar waith er mwyn diogelu staff, perfformwyr a chriw yn ystod ymarferion a thra'r ydym yn teithio, ac mae'n parhau i lynu wrth holl ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae lleoliadau partner hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau y gall cynulleidfaoedd deimlo'n ddiogel pan fyddant yn eu hadeiladau yn gwylio perfformiadau WNO. Mae gan bob lleoliad ei set ei hun o ganllawiau a gwybodaeth, sydd ar gael ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, ar eu gwefan.
  • Mae The Barber of Seville yn gynhyrchiad ar y cyd ag Opera North a Vancouver Opera
  • Cyflwynir The Barber of Seville er cof am Clive Richards
  • Cefnogir perfformiadau dathlu 75 mlynedd WNO gan Colwinston Charitable Trust
  • Cefnogir rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Kirby Laing Foundation a Bateman Family Charitable Trust
  • Cefnogir rhaglen Artist Cyswllt WNO gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, The Thriplow Charitable Trust, The Fidelio Charitable Trust a Garrick Charitable Trust.
  • Mae rhaglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020-2022 wedi'i dylunio a'i chynhyrchu gan Jerwood Arts. Mae wedi'i hariannu a'i chefnogi gan gronfa 'Tranforming Leadership' Arts Council England, Garfield Weston Foundation, Art Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, British Council, Jerwood Arts a PRS Foundation. 
  • Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael oddi wrth y Garfield Weston Foundation
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/press
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â: 
    Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
    christina.blakeman@wno.org.uk 

    Rhys Edwards, Swyddog Cyfathrebu Digidol
    rhys.edwards@wno.org.uk