- Cloi Trioleg Verdi gyda chynhyrchiad newydd o Les vêpres siciliennes
- Cynhyrchiad trawiadol WNO o The Marriage of Figaro yn dychwelyd i'r llwyfan
- Taith haf yn mynd â'r cynhyrchiad newydd o Così fan tutte i lwyfannau llai yng Nghymru a Lloegr
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi manylion llawn ei Dymor Gwanwyn 2020, sy'n cynnwys dwy opera glasurol a rhywbeth prin ym myd opera.
Les vêpres siciliennes
Mae'r Tymor yn agor gyda chynhyrchiad newydd o opera fawreddog Verdi, Les vêpres siciliennes. Wedi'i chyfarwyddo gan Syr David Pountney a'i harwain gan Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi (tan 14 Mawrth), Les vêpres siciliennes yw'r bennod olaf yn Nhrioleg Verdi'r Cwmni dros y tair blynedd diwethaf.
Mae'r Soprano Anush Hovhannisyan yn dychwelyd i WNO yn dilyn perfformio am y tro cyntaf gyda'r Cwmni yn 2018, i chwarae rhan Hélène, gyda Giorgio Caoduro hefyd yn dychwelyd i WNO fel Guy de Montfort. Mae Jung Soo Yun yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO fel Henri. Ymhlith gweddill y cast ar gyfer y cynhyrchiad newydd hwn mae Wojtek Gierlach, Wyn Pencarreg, Christine Byrne, Robyn Lyn Evans a Gareth Brynmor John.
Bydd dyluniad set 'Peiriant Verdi' Raimund Bauer o dair ffrâm sy'n cyd-gloi yn ymddangos eto yn y cynhyrchiad hwn, gyda gwisgoedd gan Marie-Jeanne Lecca. Mae'r cynhyrchiad newydd hwn yn cynnwys y ddawns fale yn y drydedd act, a fydd yn cael ei choreograffu gan Caroline Finn, sy'n Goreograffydd Preswyl gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Bydd chwe dawnsiwr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ymuno â'r cast.
Cyn perfformiad cyntaf y tymor, bydd WNO yn cynnal digwyddiad Mewnwelediad Opera, rhad ac am ddim, am 11yb ar 26 Chwefror yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, lle bydd David Pountney a Carlo Rizzi yn siarad am bennod olaf Trioleg Verdi.
The Marriage of Figaro
Hefyd yn ystod Tymor y Gwanwyn, mae perfformiadau o The Marriage of Figaro, Mozart, a gyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Tobias Richter yn 2016. Gyda dyluniadau set gan y dylunydd llwyfan enwog Ralph Koltai a gwisgoedd gan y dylunydd gwisgoedd ffilm a'r theatr nodedig Sue Blane, mae'r cynhyrchiad bywiog hwn sy'n dogfennu'r achlysur tra phwysig, diwrnod priodas Figaro, yn dychwelyd i lwyfan WNO.
Bydd Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi yn arwain perfformiadau o The Marriage of Figaro tan 12 Mawrth pan fydd James Southall a Frederick Brown yn cymryd yr awenau i orffen y daith. Mae David Ireland yn arwain y cast fel cymeriad allblyg swyddogol opera, Figaro, ac yn rhannu'r llwyfan ag ef mae Soraya Mafi fel Susanna, Jonathan McGovern fel y merchetwr a'r lliwgar Iarll Almaviva, ac Anita Watson fel Iarlles Almaviva.
Carmen
Mae cynhyrchiad newydd bywiog Jo Davies o Carmen, Bizet yn dychwelyd yn y Gwanwyn am ragor o berfformiadau yn dilyn rhediad llwyddiannus yn ystod yr Hydref, y tro hwn gyda chast newydd. Y fezzo-soprano o America, Julia Mintzer sy'n chwarae'r brif ran yn ei hymddangosiad operatig cyntaf yn y DU, gyda Peter Auty fel Don José. Hefyd yn newydd i'r cast y tymor hwn mae Giorgio Caoduro (Escamillo), Elin Pritchard (Micaëla), John Savournin (Zuniga) a Haegee Lee (Frasquita).
Gan barhau ag ymrwymiad WNO i ddatblygu talent, bydd Arweinydd Cyswllt WNO Harry Ogg yn arwain perfformiadau'r Gwanwyn o Carmen, gydag Arweinydd Preswyl benywaidd cyntaf WNO, Tianyi Lu yn cymryd yr awenau ar gyfer y perfformiadau yn Lerpwl.
Cerddorfa WNO
Oddi wrth y prif lwyfan, mae gan Gerddorfa WNO dymor y Gwanwyn prysur o'u blaenau, sy'n cynnwys taith o A Journey to Vienna gyda'r soprano Mary Elizabeth Williams, ac ail-gread o gyngerdd 1808 eiconig Beethoven ar y cyd â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, a chyngerdd o dan arweinyddiaeth Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus fel rhan o'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Cyn i operâu tymor y Gwanwyn ddechrau, bydd Cerddorfa WNO yn cyd-chwarae â National Opera Studio (NOS) mewn perfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 1 Chwefror. Mae gan WNO berthynas hirsefydlog â NOS, fel rhan o'i raglen datblygu talent, sy'n cynnig cyfleoedd i artistiaid yng nghamau cyntaf eu gyrfa i ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant. Dan gyfarwyddyd Emma Jenkins ac arweinyddiaeth Sian Edwards, bydd yr 17 o gantorion a repetiteurs o NOS yn perfformio perfformiadau wedi'u llwyfannu'n rhannol o olygfeydd opera yn Theatr Donald Gordon y Ganolfan.
Ieuenctid a Chymuned
Mae gwaith WNO i agor y drws i fyd opera ac ysbrydoli pobl ifanc yn parhau gyda chyfres o gyngherddau ysgol yn ystod Tymor y Gwanwyn yn Llandudno, Southampton a Norwich, ochr yn ochr â'r daith brif raddfa. Mae WNO hefyd yn mynd â'i Gyngerdd i'r Teulu poblogaidd i Theatr Royal Plymouth ar 18 Ebrill. Mae'r cyngherddau hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc brofi cyngerdd cerddorfaol byw, ac i lawer ohonynt, dyma eu cyflwyniad cyntaf i opera a cherddoriaeth glasurol.
Ym mis Ebrill, bydd dros 100 o gyfranogwyr o Opera Ieuenctid WNO, rhwng 10-18 oed, yn perfformio cynhyrchiad newydd o The Black Spider, Judith Weir yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo yn y Barri. Mae'r cynhyrchiad yn uno'r tîm creadigol y tu ôl i'r perfformiadau llwyddiannus o Brundibár gan Opera Ieuenctid WNO yn ystod haf 2018 gyda Rhian Hutchings yn cyfarwyddo, Dan Perkin yn arwain, a dyluniadau gan Bethany Seddon.
Bydd rhaglen WNO o weithgarwch gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn parhau gyda darn newydd o waith, a fydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chanolfan Oasis, Caerdydd yn seiliedig ar straeon a chaneuon gan gyfranogwyr y Ganolfan, i'w berfformio yn ddiweddarach yn y gwanwyn.
Così fan tutte
Gan ddechrau ar 23 Mai, bydd WNO yn mynd â chynhyrchiad newydd o Così fan tutte, Ysgol Gariad ar daith i leoliadau canolig eu maint ledled Cymru a Lloegr. Mae'r daith yn dilyn cynhyrchiadau canolig eu maint diweddar WNO o Rhondda Rips it Up! a Don Pasquale, ac mae'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cwmni i gyrraedd ystod eang o gynulleidfaoedd gyda repertoire operatig amrywiol. Wedi'i gyfarwyddo gan Max Hoehn a'i ddylunio gan Jemima Robinson, bydd y cynhyrchiad newydd hwn o Così fan tutte, wedi'i osod yn y 1970au, yn mynd â chynulleidfaoedd yn ôl i'r ysgol, wrth iddo ddilyn pedwar disgybl chweched dosbarth, sy'n dysgu am gariad cyntaf a'i holl oblygiadau.
Mae'r cast ar gyfer Così fan tutte yn cynnwys Rhodri Prys Jones fel Ferrando, Ross Ramgobin fel Guglielmo, Quentin Hayes fel Don Alfonso, Nazan Fikret fel Fiordiligi, Katie Bray fel Dorabella ac Elizabeth Karani fel Despina. Frederick Brown sy'n arwain.
Dywed Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang: "Mae Opera Fawreddog Verdi, na chaiff ei pherfformio'n aml, Les vêpres siciliennes yn fenter fawr i unrhyw gwmni; felly rwy'n arbennig o falch bod WNO yn ei chyflwyno yn ein Tymor Gwanwyn, gan ei fod yn deitl teilwng ar gyfer gorffen ein trioleg o'i waith. Gyda The Marriage of Figaro a Carmen hefyd yn rhan o'n hamserlen, gobeithio y bydd gennym rywbeth sy'n apelio i bob math o selogion opera, p'un a ydynt yn newydd i'r ffurf hon ar gelfyddyd, neu'n hen law arni. Rhywbeth sydd yr un mor bwysig i'n cynyrchiadau ar y prif lwyfan, fodd bynnag yw'r prosiectau a wneir gan ein hadran Ieuenctid a Chymuned. Ceir ymgysylltiadau gwerth chweil o bob maint a llun, ac mae'r ystod eang o weithgarwch y mae'r cwmni bellach, yn ymgymryd ag ef, wir yn ein helpu i sefydlu ein gwaith ym mywydau'r llawer, na fyddent fel arall, o bosib, wedi dod i gysylltiad â'n theatrau teithiol mawr."
Am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf. Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli
- Mae Les vêpres siciliennes yn cyd-gynhyrchiad gydag Oper der Stadt Bonn, ac fe'i cefnogir gan Ymddiriedolaeth Kobler a’r Syndicâd Verdi WNO
- Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal yw Noddwr Trioleg Verdi WNO
- Mae The Marriage of Figaro yn cyd-gynhyrchiad gyda Grand Théâtre de Genève
- Cefnogir Carmen gan Gyfeillion WNO
- Harry Ogg yw Arweinydd Cyswllt WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO
- Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO gan Marian a Gordon Pell
- Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan Sefydliad Garfield Weston.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:
Rachel Bowyer / Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd)
029 2063 5038
rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk
Rhys Edwards, Swyddog y Wasg
029 2063 5037
rhys.edwards@wno.org.uk