Adam Gilbert
Trosolwg
Hyfforddwyd Adam Gilbert yn y Guildhall School of Music & Drama a’r National Opera Studio, Llundain, fel bariton i ddechrau. Ar ôl newid i lais tenor, ymunodd Adam ag Opera Cenedlaethol Cymru am flwyddyn fel Artist Cyswllt. Mae’r rhannau y mae wedi’u chwarae fel tenor yn cynnwys y Tad yn Seven Deadly Sins (Teatro Colón, Buenos Aires), y Tad/Brenhines y Calonnau yn Alice’s Adventures in Wonderland, Steva yn Jenůfa, Teithiwr/Uwch Oracl a dirprwy ar gyfer Adnan/Zayed yn Al Wasl, dirprwy ar gyfer Pinkerton yn Madame Butterfly (Opera Cenedlaethol Cymru), dirprwy ar gyfer Rodolfo yn La bohème (English National Opera), dirprwy ar gyfer Marc yn Les Naufrageurs (Glyndebourne Festival Opera) a Florestan yn Fidelio (Opra Cymru).
Gwaith diweddar: Emlyn Blaze of Glory! (WNO) a Rodolfo La bohème (Opera Holland Park).