Cwrdd â WNO

Adele Thomas

Cyd-Brif Swyddog Gweithredol/Cyfarwyddwr Cyffredinol

Cafodd Adele Thomas ei geni a'i magu ym Mhort Talbot yn Ne Cymru. Mae Adele wedi derbyn bwrsariaeth RTYDS ar gyfer arweinwyr artistig y dyfodol a chafodd wahoddiad i gwrs cyfarwyddwyr ifanc y National Theatre Studio yn 2005. Mae hi hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt. 

Mae ei gwaith opera yn cynnwys:Rigoletto (Opera Cenedlaethol Cymru); Semele (Glyndebourne); Il trovatore (Opernhaus Zürich a ROH); In the Realms of Sorrow (Gŵyl Handel Llundain/Stone Nest); Bajazet (INO a ROH); Apollo e Dafne a Berenice (ROH); Così fan tutte (Opera Gogledd Iwerddon). Enwebwyd Bajazet a Berenice ar gyfer y wobr Cynhyrchiad Opera Newydd Gorau yng Ngwobrau Olivier.

Mae ei chredydau Theatr yn cynnwys:The Memory of Water (Nottingham Playhouse);The Weir (ETT); Macbeth (Tobacco Factory); Eyam, The Oreseia, The Knight of the Burning Pestle a Thomas Tallis (Shakespeare’s Globe); The Golden Hours (dramâu Unusual Unions  y Royal Court Theatre); The Bloody Ballad a The Forsythe Sisters (Gagglebabble); The Passion a The Passion: One Year On (Cydymaith Prosiect, Theatr Genedlaethol Cymru); Under Milk Wood (Royal & Derngate). 


Rigoletto | Adele Thomas | Dod i adnabod