Cwrdd â WNO

Alastair Postlethwaite

Ganed Alastair Postlethwaite yn Preston ac fe'i hyfforddwyd yn Tring Park School for the Performing Arts. Mae Alastair wedi datblygu gyrfa amrywiol fel dawnsiwr a choreograffwr, gan berfformio ar Broadway ac yn y West End, ar gyfer teledu a ffilm. Gweithiodd fel coreograffwr a chyfarwyddwr symudiad ar gyfer The Prom (Stagebox) a pherfformiad i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu y National Youth Theatre yn Shaftesbury Theatre a Phalas Buckingham. Bu hefyd yn Goreograffwr Cyswllt ar gyfer Cats, Carousel a rhaglen Miranda yn arbennig ar gyfer y Flwyddyn Newydd (BBC). Ym myd opera, mae Alastair wedi perfformio yn Tocsa, Don Giovanni a Peter Grimes (Royal Opera House). Ym myd teledu a ffilm, ymddangosodd Alastair yn rownd derfynol Tymor 1 So You Think You Can Dance, y 'Royal Variety Performance', White Christmas gan Matthew Bourne, Beyond the Sea, Emma a Last Night in Soho

Gwaith diweddar: Carousel (London Coliseum), A Chorus Line a Sinatra (London Palladium), Swan Lake, Nutcracker! a Play Without Words (Matthew Bourne’s New Adventures).