
Ganed Albert Faura ym Marcelona a hyfforddodd yn Institut del Teatre y ddinas. Ac yntau’n gyfarwyddwr goleuo ym myd yr opera, y theatr a dawns, mae wedi gweithio gyda chyfarwyddwyr a choreograffwyr tebyg i Núria Espert, Adolfo Marsillach, Josep Maria Flotats a Nicolas Joel. Mae Faura wedi ennill chwe Gwobr Butaca, dwy Wobr Max a’r Premio de la Crítica de Barcelona am ddwy flynedd yn olynol.
Gwaith diweddar: Dylunydd Goleuo Die Zauberflöte (Festival Castel de Peralada); El Prometeo (Opéra de Dijon); Il trovatore (Ópera de Oviedo)