Cwrdd â WNO

Alex Christian

Ganed Alex ym Mhontypridd. O pan oedd yn bedair oed, roedd yn byw yn Iwerddon cyn symud i Lundain yn 18 oed i hyfforddi yng Ngholeg Bird, lle derbyniodd BA (Anrh) mewn Dawns Broffesiynol a Theatr Sioe Gerdd. Mae’n perfformio mewn cynyrchiadau cerddorol ar draws y DU ac yn rhyngwladol, a hefyd yn gwneud gwaith coreograffi ynddynt.

Ymhlith ei gydnabyddiaethau coreograffi mae: Coreograffydd Cynorthwyol Here & Now | The Steps Musical (Taith y DU ac Iwerddon), Cyfarwyddwr Symudiad a Chyfarwyddwr Cynorthwyol The Whistling (Premiere y Byd, The Mill at Sonning), Cyd-Goreograffydd Celebrating Sondheim (Theatr Gŵyl Chichester), Coreograffydd Cyswllt Gypsy (The Mill at Sonning) - Enillydd Gwobr Theatr y DU ar gyfer Cynhyrchiad Sioe Gerdd Orau, Cyd-Goreograffydd Silence is Golden (U&Dave).

Ymhlith ei gydnabyddiaethau Coreograffydd Preswyl a Chapten Dawns mae: Coreograffydd Preswyl Here & Now | The Steps Musical (Premiere y Byd, Theatr Alexandra Birmingham), Coreograffydd Preswyl The Phantom of the Opera (Taith Ryngwladol), Coreograffydd Preswyl a Chapten Dawns Newsies (Troubador Theatre), Capten Ddawns Guys and Dolls (The Mill at Sonning), Capten Dawns Flashdance (Taith y DU ac yn Rhyngwladol).

Mae ei gydnabyddiaethau perfformio yn cynnwys: Baby John West Side Story (Leicester Curve), Doody Grease (Taith y DU), Swing She Loves Me (Crucible, Sheffield), Ensemble Kiss Me, Kate (Taith y DU), Dawnsiwr Snow White a Disenchanted (Disney).