
Alex Metcalfe
Astudiodd Alex Metcalfe Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain yng Nghyfadran Syr John yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn, arddangosodd waith mewn sioeau cyfunol yn Festival Hall Llundain, a Hayes Galleria, yn ogystal ag ymddangos ym mhapur newydd The Observer a chylchgronau masnach. Yn 1994, graddiodd gyda BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth, Ffilm a Fideo o Brifysgol San Steffan.
Ar ôl gweithio ar ystod eang o sioeau teledu a ffilmiau byr, ffilmiodd Alex ei ffilm nodwedd gyntaf, Asylum (The Refuge yng Ngogledd America) yn 2003. Ers hynny, mae wedi ffilmio 5 ffilm nodwedd arall, a nifer o hysbysebion, rhaglenni dogfen, a dramâu comedi. Mae ei ffilmiau a hysbysebion wedi ennill amrywiaeth o wobrau, yn cynnwys y wobr Ffilm Nodwedd Orau yn BAFTA Cymru (2014) ar gyfer Playing Burton a nifer o wobrau aur Promax. Yn 2017, derbyniodd enwebiad BAFTA Cymru ar gyfer y Gwaith Camera a Golau Gorau ar gyfer The Lighthouse.