Cwrdd â WNO

Alfredo Tejada

Ganed y canwr fflamenco Alfredo Tejada ym Malaga, ac fe'i magwyd yn Granada. Mae galw mawr am Alfredo i gyfeilio i ddawnswyr, ac mae’n ymddangos yn rheolaidd mewn peñas, gwyliau, theatrau, tablaos fflamenco ac, ers 2007, fel rhan o Sefydliad Antonio Gades, mae wedi canu yn Carmen, Fuenteovejuna, Suite Flamenca a Bodas de Sangre. Mae wedi rhyddhau sawl albwm fflamenco sydd wedi eu canmol gan feirniaid gan gynnwys En Directo a Sentidos del Alma. Mae wedi cydweithio'n helaeth gyda'r cyfansoddwr Osvaldo Golijov gyda pherfformiadau o Ainadamar. Enillodd wobr Canwr Cyfeiliant Gorau yn Festival de Jerez 2020 a gwobr Canwr Fflamenco Rhyngwladol Gorau, y Lámpara Minera yn y Cante de las Minas 2017.