Cwrdd â WNO

Alice Farnham

Ysgolor organ yng Ngholeg St Hugh, Rhydychen oedd Alice Farnham cyn iddi hyfforddi gydag Ilya Musin yn St Petersburg. Mae hi'n dychwelyd nawr i arwain Opera Ieuenctid WNO ar ôl arwain Paul Bunyan gan Britten a Kommilitonen! gan Maxwell-Davies. Mae hi wedi bod yn Arweinydd Gwadd gyda'r Philharmonia Orchestra, Royal Scottish National Orchestra a Southbank Sinfonia. Yn ddiweddar, fe arweiniodd Gerddorfa Gyngerdd y BBC yn y Prom. Mae hi hefyd yn arwain cynyrchiadau yn y Royal Academy of Music, Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rheolaidd. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Arweinwyr Benywaidd gyda'r Royal Philharmonic Society, Rhaglen Arweinwyr Benywaidd Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Dulyn, a Perth Symphony Orchestra hefyd. Mae hi'n cael ei rhestru ar Woman’s Hour Music Power List y BBC.  Mae'r gwaith sydd ganddi ar y gweill yn cynnwys The Elixir of Love (Opera Gŵyl Longborough), ac opera newydd gan Conor Mitchell a Belfast Ensemble.