Alicia Frost
Daw Alicia Frost o Winnipeg ac fe’i hyfforddwyd yn The School of Toronto Dance Theatre, Laban a’r Royal Academy of Dance. Mae hi’n aelod o’r gyfadran yn Urdang ac ArtsEd. Gweithiodd fel animateur i Gwmni Dawns Rambert am flynyddoedd lawer. Mae Frost wedi gweithio mewn opera ym Mhrydain fel dawnsiwr llawrydd, cyfarwyddwr symudiad, coreograffydd a chyfarwyddwr cynorthwyol. Mae’r prosiectau sydd ganddi ar y gweill yn cynnwys Coreograffydd ar gyfer The Magic Flute gydag Oxford Opera a Hansel and Gretel gyda Nederlandse Reisopera.
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr Cynorthwyol Don Giovanni (Dorset Opera), Peter Grimes (WadOperaNederlandse); Coreograffydd Paris and Helen (Bampton Classical Opera); Cyfarwyddwr Staff Roberto Devereux, La Cenerentola (WNO)