Alicja Kozak
Ganed Alicja yn Kraków, Gwlad Pwyl, lle dechreuodd ddysgu chwarae’r soddgrwth yn chwech oed. Parhaodd â’i haddysg gerddorol ym Mhrifysgol Chopin yn Warsaw, Hochschule fur Musik Detmold a’r Guildhall School of Music & Drama a graddiodd yn 2020. Yn 2021/2022, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Iau iddi yn Guildhall, a chyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 2023 roedd yn gweithio’n llawrydd gyda gwahanol ensembles ar draws y DU ac Ewrop a bu iddi berfformio yn Wigmore Hall, Berlin Mendelssohn Remise, Canolfan Penderecki yn Lusławice a gyda’r National Orchestra of Polish Radio yn Katowice.
Mae Alicja wedi ennill nifer o gystadlaethau ar lefel ryngwladol gan gynnwys Cystadleuaeth Ryngwladol Spisak, Concurso Rhyngwladol De Musica Agustín Aponte, Cystadleuaeth Soddgrwth Gwobr Gustav Mahler yn ogystal â Chystadleuaeth Soddgrwth mawreddog Danczowsk .
Mae Alicja wrth ei bodd yn cerdded yn y cefn gwlad ac mae’n hoff o gŵn.