
Alys Mererid Roberts
Mae Alys Mererid Roberts yn soprano o Roslan ger Cricieth. Enillodd Alys ysgoloriaeth yr Is-Ganghellor i astudio yn Durham University cyn mynd yn ei blaen i astudio yn ysgol opera’r Royal Academy of Music yn Llundain. Mae wedi canu rhannau megis y Ceiliog aur The Golden Cockerel (English Touring Opera); Gretel Hänsel and Gretel, Y Dywysoges Puss in Boots a Polly Peachum The Beggar’s Opera (Opera Canolbarth Cymru); Chocholka a Pepík The Cunning Little Vixen, Edith The Pirates of Penzance, a Tweedledee Alice’s Adventures in Wonderland, Will Todd (Opera Holland Park); a dirprwyo rhan y Gaethferch Salome (English National Opera).
Yn ddiweddar, bu Alys yn gweithio gyda Dunedin Consort ar brosiect Out of Her Mouth, sef cyfres o gantatau unigol, ac mewn opera-werin gymunedol The Song of Home yn Dorset gydag Outland Opera.