Cwrdd â WNO

Andrei Kymach

Enillodd y bariton Andrei Kymach o’r Wcráin y Wobr Gyntaf yng nghystadleuaeth adnabyddus BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 2019. Graddiodd Andrei o Raglen Artistiaid Ifanc y Bolshoi yn 2018. Yn nhymor 2021/2022 bydd yn dychwelyd i’r Bolshoi Theatre ar gyfer Sadko, y Bayerische Staatsopera ar gyfer La bohème ac yn perfformio yng Ngŵyl Savonlinna am y tro cyntaf fel Escamillo yn Carmen.

Gwaith diweddar: Syr Riccardo Forth I Puritani (Gran Teatro del Liceu Barcelona); Lord Enrico Ashton Lucia di Lammermoor (Auditorio de Tenerife); prif ran Don Giovanni (Opera de Nice, Theatre d’Antibes), prif ran The Demon (perfformiad cyngerdd, Queen Elizabeth Hall, Llundain)