
Cwrdd â WNO
Andrew George
Ganed Andrew George yn Ne Cymru ac fe’i hyfforddwyd yn Laban Dance Centre. Bu’n gweithio fel dawnsiwr i Matthew Bourne am sawl blwyddyn, cyn dechrau ei yrfa yn goreograffydd opera. Mae George bellach yn gweithio gyda rhai o gwmnïau opera enwocaf y byd, yn cynnwys y Wiener Staatsopera, Lyric Opera of Chicago, Teatro alla Scala ac The Metropolitan Opera, Efrog Newydd.