
Cwrdd â WNO
Andrew Shore
Trosolwg
Mae Andrew Shore wedi perfformio gyda phob cwmni opera mawr y DU ac yn rhyngwladol gyda Metropolitan Opera New York, La Scala Milan, Paris Opera, Chicago Lyric Opera, ac o 2006 i 2010 ymddangosodd fel Alberich yn y Ring Cycle gan Wagner yn Bayreuth. Yn 2014, gwnaed ef yn Ddoethur Anrhydeddus mewn Cerdd gan Brifysgol Bryste.
Gwaith diweddar: Prif rôl Don Pasquale (WNO); Dr Dulcamara The Elixir of Love (Canadian Opera Company); La Roche Capriccio (Garsington Opera); Pooh Bah The Mikado, Yr Arglwydd Ganghellor Iolanthe (English National Opera) Alcinoro & Benoit La bohème (Grange Park Opera)