
Cwrdd â WNO
Angharad Lee
Mae Angharad Lee, o Gwm Rhondda, yn gyfarwyddwr dwyieithog o fri a ddechreuodd ei gyrfa fel actores a chantores. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Leeway Productions, yn cynnwys The Last Five Years pan gydweithiodd â'r coreograffydd Mark Smith. Mae hi hefyd wedi cyfarwyddo seremonïau agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf (Lloergan, Y Tylwyth). Mae ei gwaith cyfarwyddo arall yn cwmpasu cynyrchiadau cenedlaethol i sioeau un person llawr gwlad. Mae Angharad hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'n hi'n frwd dros ddysgu creadigol a mewnosod creadigrwydd ar draws y cwricwlwm yng Nghymru.