
Angharad Lyddon
Trosolwg
Mae’r fezzo-soprano Angharad Lyddon wedi astudio ar gyrsiau BMus, MA a Diploma Uwch Opera y Royal Academy of Music yn Llundain. Gwnaeth ei hymddangosiad gyntaf proffesiynol ar gyfer English National Opera yn 2015 fel Kate yn Pirates of Penzance. Yn ENO, canodd rôl Merch Akhnaten yn Akhnaten, adfywiad o gynhyrchiad Phelim McDermott a enillodd gwobr Olivier. Mae hi hefyd wedi bod yn ddirprwy i’r cwmni yn y rolau Hermia yn A Midsummer Night’s Dream, Perdita yn The Winter’s Tale, a Bachgen Ysgol, Gwisgwr a Gweinydd yn Lulu. Yn 2019 bu Angharad yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC a chyrhaeddodd y Rownd Derfynol yng nghystadleuaeth y Wobr Gân.
Gwaith diweddar: Irene Tamerlano (The Grange Festival), Waltraute Götterdämmerung (Grimeborn Festival), Cherubino Le nozze di Figaro (West Green House Opera) a Messiah Handel yn y Royal Albert Hall.