Cwrdd â WNO

Anjali Mehra

Ymunodd Anjali a chwmni dawns New Adventures Matthew Bourne ym 1999 ar ôl graddio o Central School of Ballet, Llundain. Perfformiodd Glenda yn Play without Words; Irina yn The Red Shoes; The Queen /Unsuitable Girlfriend yn Swan Lake; y Llysfam yn Cinderella a Sugar yn Nutcracker! Mae hi hefyd wedi perfformio yn Kiss Me, Kate yn y Théâtre du Châtelet ac yn y fflimiau World War Z ac Alexander. Roedd hi'n nodedig am fod yn aelod o gast gwreiddiol Bombay Dreams (a gynhyrchwyd gan Andrew Lloyd Webber).  Mae uchafbwyntiau ei choreograffi yn cynnwys Spike gan Ian Hislop a Nick Newman; Jacob Lenz (English National Opera); Dick Whittington (Theatr Watford Palace) a L’Orfeo (Silent Opera). Yn ddiweddar, hi oedd y Cyfarwyddwr Symudiadau yn Mavra gan Stravinsky a Pierrot lunaire gan Schoenberg (Royal Opera House).