Dathliad Blwyddyn Newydd Cerddorfa WNO
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Croesawu 2025 gydag ysblander clasurol
Bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn llenwi’r awyr â waltsiau penigamp, polcas sionc, a’r holl glasuron y byddech chi’n disgwyl eu mwynhau yn nehongliad ardderchog y WNO o gyngherddau Blwyddyn Newydd traddodiadol Fienna.
Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys ffefrynnau fel Josef Strauss a Johann Strauss II, ac yn llawn enghreifftiau o gerddoriaeth Fienna ar ei gorau.
Dan gyfarwyddyd Arweinydd Cerddorfa’r WNO a’r Cyngerdd-feistr David Adams, bydd Artistiaid Cyswllt diweddaraf y WNO yn ymuno â Cherddorfa WNO.
Eisteddwch yn ôl ac ymgollwch yn y cyngerdd egnïol hwn o’r ffefrynnau clasurol a rhoi’r dechrau gorau i 2025 gyda Chyngerdd WNO.
#WNOorchestra
Johann Strauss II Agorawd Die Fledermaus
Josef Strauss Die Libelle (Gwas y neidr) Polka-Mazurka
Eduard Strauss Ohne Bremse (Heb freciau) Polka
Johann Strauss II Czardas, Klänge der Heimat (Synau fy mamwlad) o Die Fledermaus
Josef Strauss Walts Delirien
Mozart O, wie will ich triumphieren (Mae fy awr fuddugoliaethus yn agosáu) o Die Entführung aus dem Serail
Dvořák Dawns Slafonig Rhif 1 yn C Fwyaf
EGWYL
Dvořák Agorawd Carnival
Wagner Mögst du, mein Kind (Fy mhlentyn, rhowch groeso i'r dieithryn hwn) oThe Flying Dutchman
Brahms Dawns Hwngaraidd Rhif 4
Johann StraussII Walts Bei uns z'Haus (Cartref)
Johann Strauss II Polca Tik-Tak
Kálmán Heia, heia, in den Bergen ist mein Heimatland (Heia, yn y mynyddoedd yw fy mamwlad) o The Gypsy Princess
Cefnogwyd Prif Chwaraewyr y Gerddorfa gan Gylch Prif Chwaraewyr WNO.
Defnyddiol i wybod
Tua un awr a 55 munud, gan gynnwys un egwyl