The Marriage of Figaro Mozart
–Trosolwg
Cariad, chwerthin a chlymau o garwriaethau
Dylai fod y diwrnod hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna ond a fydd eu priodas yn cael ei chynnal o gwbl? Mae Iarll Almaviva yn benderfynol o hudo Susanna, ond a fydd ei wraig yn darganfod y gwir? A fydd Figaro yn gallu trechu ei feistr, er anrhydedd ei ddarpar wraig? Neu a fydd y Cherubino ifanc yn drysu pethau fwy byth? Yn y stori gyfareddol hon am gariad, ffyddlondeb a cham-adnabyddiaeth, mae'r barbwr ffraeth yn canfod ei ffordd drwy droeon annisgwyl cymhlethdodau cymdeithasol y 18fed ganrif gyda dengarwch a hiwmor, a chynlluniau clyfar a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd hyd at y nodyn olaf.
Mae cynhyrchiad WNO, sydd wedi ei osod yn yr oes o’r blaen, yn cynnwys setiau cain, gwisgoedd godidog a holl gynhwysion opera glasurol. Felly, ymunwch â ni wrth i ni gamu i fyd The Marriage of Figaro lle mae cariad a chwerthin yn cydgyfeirio mewn troellwynt o gynlluniau clyfar a gwychder melodig Mozart.
Archebu rhaglen
Cefnogaeth cynhyrchu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Tymor 2024/2025 wedi'i gefnogi gan Dunard Fund.
Defnyddiol i wybod
Hyd y perfformiad tua thair awr ac 20 munud, gydag un egwyl
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Ffeithiau
Cyd-gynhyrchiad â Grand Théâtre de Genève
Synopsis
Act l
Mae'n ddiwrnod priodas Susanna a Figaro, gweision yr Iarll a'r Iarlles Almaviva. Gan ofni y byddai'r Iarll yn adfywio'r traddodiad o droit de seigneur, yn caniatáu i Arglwydd gysgu â phriodferch, mae Figaro yn addo trechu ei feistr. Mae Doctor Bartolo a'i hen feistres tyˆ, Marcellina, yn trafod cytundeb benthyciad sy'n nodi bod rhaid i Figaro ad-dalu ei ddyled, neu ei phriodi hi. Mae Cherubino, y gwas bach, yn datgan ei gariad at holl fenywod y tyˆ – yn benodol yr Iarlles. Yn gyfrwys, mae Figaro yn cael y gweision i ganu clodydd eu meistr am ymwrthod â'i hawl ar Susanna ac yn gofyn i'r Iarll am fendith ar eu priodas. Mae'r Iarll yn oedi ac yn gorchymyn Cherubino i ymuno â'r fyddin.
Act II
Mae Figaro, Susanna a'r Iarlles yn cynllwynio i roi stop ar gynlluniau'r Iarll ac yn datgelu ei anffyddlondeb gyda llythyr dienw yn honni bod gan yr Iarlles gariad. Ar yr un pryd, mae'n anfon Cherubino wedi gwisgo fel Susanna i gyfarfod yr Iarll, gan roi cyfle i'r Iarlles ei ddal yn ei chanol hi. Mae'n rhaid i Cherubino guddio wrth i'r Iarll dorri ar draws eu cynllwynio. Tra bod Figaro yn ceisio lleddfu pethau, mae Marcellina yn mynnu iddo ei phriodi hi fel tâl am ei ddyled.
EGWYL
Act III
Mae'r Iarlles yn gofyn i Susanna drefnu cyfarfod â'r Iarll, ond mae'r Iarll yn clywed Figaro a Susanna yn cynllwynio ac yn addo dial. Dan bwysau gan gyfreithiwr Marcellina, Don Curzio, mae Figaro yn honni ei fod angen caniatâd ei rieni i briodi, ond nid yw'n ymwybodol pwy yw ei rieni. Mae Marcellina yn gweld man geni ar ei fraich ac yn sylweddoli mai ef yw ei mab hir golledig, ac yn datgelu mai Bartolo yw ei dad. I ddathlu, mae Marcellina a Bartolo yn penderfynu cymryd rhan mewn priodas ddwbl.
Act IV
Mae Marcellina a Figaro yn helpu Barbarina i edrych am y pin coll sy'n cadarnhau cyfarfod yr Iarll a Susanna. Mae Figaro yn meddwl bod Susanna wedi bod yn anffyddlon ac yn addo dial. Mae rhagor o ddryswch pan mae'r Iarlles a Susanna yn ymddangos, yn gwisgo dillad ei gilydd – mae Figaro yn cuddio. Mae Cherubino ac yna'r Iarll yn ceisio ennill serch 'Susanna'. Mae Figaro yn esgus denu'r 'Iarlles', gan wylltio Susanna nes iddo gyfaddef ei fod yn gwybod mai hi oedd hi. Yn parhau â'r drygioni, mae Figaro yn datgan ei gariad at yr 'Iarlles'. Mae'r Iarll yn datgan bod pawb yn dyst i'w hanffyddlondeb. Mae hi'n datgelu ei hun, gan orfodi'r Iarll i erfyn am faddeuant. Mae'r dathliadau hirddisgwyliedig yn mynd rhagddynt.