Anna Siminska
Trosolwg
Ganed Anna Siminska yn Lodz, Gwlad Pwyl ac astudiodd yn y Frédéric Chopin Music Academy, Warsaw a'r Graz University of the Arts. Perfformiodd yn rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2007 fel Adele (Die Fledermaus) yn y Schlosstheater, Schönbrunn a pherfformiodd Brenhines y Nos (Die Zauberflöte) am y tro cyntaf gydag Opera Bastille yn 2015. Ers hynny mae wedi perfformio'r rhan ledled y byd, i gwmnïau megis Vienna State Opera, Royal Opera House, Hamburg State Opera, Komische Oper Berlin, Washington National Opera, Berlin State Opera, Dresden Semperoper, Opera in Tokyo ac Oper Frankfurt. Mae perfformiadau eraill yn cynnwys Salzburg Festival, Adele (Der Fledermaus) ar gyfer Vienna State Opera, Clorinda (La Cenerentola) yn Glyndebourne, Dew Fairy (Hansel und Gretel) yn y Royal Opera, Rossignol (Le Rossignol) ar gyfer Polish National Opera a Blumenmaedchen (Parsifal) yn Bayreuth Festival. Dyma ei hymddangosiad cyntaf gyda WNO.