Cwrdd â WNO

Annie George

Astudiodd Annie George yn Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan raddio ag Anrhydedd MA mewn Uwch Berfformiad Opera yn 2021.

Perfformiodd gyntaf gyda WNO fel Blodwen yn Blaze of Glory! gan Hackbridge-Johnson yn 2023. Ers hynny mae wedi parhau ei pherthynas â’r Cwmni, gan lenwi yn eu Cyngherddau Ysgol a Chwarae Opera YN FYW! Fe wnaeth hefyd lenwi rôl yr Ail Conversa yn Suor Angelica.

Mae ei rolau eraill yn cynnwys: Rosina The Barber of Seville, Mrs Grose The Turn of the Screw, Madame Flora The Medium, Madame Popova The Bear a’r Wrach Hansel and Gretel.

Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys: Page Rigoletto (Opera Holland Park) a Mari The Flying Dutchman (OperaUpClose, fel Artist Cysylltiol). Fe ganodd Annie hefyd yn y Corws yng Ngŵyl Opera Glyndebourne yn Nhymor yr Haf a’r Hydref 2025.