Antony César
Trosolwg
Mae Antony César yn berfformiwr syrcas a sioe amrywiaeth pumed genhedlaeth sy’n hanu o Wlad Belg, ond yn byw yn Ffrainc ar hyn o bryd. O oed ifanc cafodd ei drochi yng nghelfyddyd gymnasteg, dawns gyfoes a jazz modern, gan ennill ysgoloriaeth yn ddiweddarach yn yr École National du Cirque yn Montréal, Canada, lle daeth ei dalent gyda strapiau awyrol i’r amlwg. Mae Antony wedi ennill gwobr fawreddog y ‘Golden Buzzer’ ar La France Incroyable Talent a’r wobr Aur yng Ngŵyl Glasurol Ryngwladol Salieri Circus yn Verona. Mae ei befformiadau theatrig yn cynnwys portreadu'r Dyn Ffroenuchel yn The Little Prince ar Broadway ac yn Sydney. Mae wedi cael llwyddiant rhyngwladol nodedig gyda’i act strapiau awyrol, Space Oddity, a ysbrydolwyd gan ei arwr cerddorol David Bowie.
Gwaithdiweddar: Cirque d’Hiver Bouglione (Paris), Les Enfants du Paradis (Giffords Circus, y DU) a Circus Flic Flac (Yr Almaen).