Ashton Hall
Hyfforddwyd Ashton yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance a graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf. Gweithiodd yn helaeth â chwmni dawns New Adventures Matthew Bourne, gan ymddangos am y tro cyntaf yn Lord of the Flies (2014), Romeo + Juliet (2019) yn Sadler’s Wells a’r daith Doorstep Duets (2022). Ymunodd Ashton â chwmni dawns Akram Khan yn 2019, gan berfformio yn Wembley Arena fel rhan o Bellator MMA a ddarlledwyd ar Channel 4 a Channel 5, yn ogystal ag ymddangos ar raglen ddogfen Khan, Extreme Combat: The Dancer and the Fighter. Chwaraeodd Ashton y brif rôl yn y ffilm ddawns animeiddiedig Breathless Puppets, a gafodd ei choreograffu gan Khan a’i chyfarwyddo a’i darlunio gan Naaman Azhari a gafodd ei enwebu am BAFTA. Mae ei uchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformio Tarantiseismic gan Damien Jalet gyda’r National Youth Dance Company yn 2017. Perfformiodd Ashton am y tro cyntaf yn y West End yn 2022 gan serennu yn House of Flamenka gan Arlene Phillips a James Cousins.