Wedi'i eni i deulu o gerddorion, yn 16 oed enillodd Ben ysgoloriaeth i’r Purcell School fel basydd jas lle dysgodd gydag Oli Hayhurst a dilyn gwersi clasurol gyda Neil Tarlton. Roedd Ben yn aelod o’r National Youth Orchestra of Great Britain. Parhaodd â’i astudiaethau gyda Neil Tarlton yn y Royal College of Music a bu’n aelod o gynllun cerddorfaol English National Opera yn ei flwyddyn olaf. Ar ôl iddo raddio bud iddo fynychu cwrs bas a gynhaliwyd gan yr unawdydd byd enwog Gary Karr yn Victoria, Canada.
Ar ôl bod yn gweithio’n llawrydd gyda cherddorfeydd yn y DU ac Iwerddon am ddwy flynedd, ymunodd Ben ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 2018 ac ers hynny mae wedi mwynhau chwarae rhywfaint o’r gerddoriaeth glasurol orau, yn ogystal ag ysgrifennu gwych ar gyfer y bas, byth ers hynny.