
Cwrdd â WNO
Ben Johnson
Trosolwg
Cynrychiolodd Ben Johnson Loegr yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 2013, ac enillodd Wobr y Gynulleidfa. Mae’n gyn Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3, yn 2008 enillodd Wobr Kathleen Ferrier, yn 2011 Wigmore Hall Emerging Talent, ac yn 2013-2015 roedd yn Harewood Artist gyda’r English National Opera. Johnson yw Sylfaenydd a Phrif Arweinydd Southrepps Sinfonia a Chyd-gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerddoriaeth Glasurol y Southrepps.
Gwaith diweddar: Nebuchadnezzar The Burning Fiery Furnace (Scottish Opera); Iarll Tolloller Iolanthe (ENO); Don Ottavio Don Giovanni, Gabriel von Eisenstein Die Fledermaus (Opera Holland Park)