
Bertie Baigent
Daeth Bertie i sylw rhyngwladol fel enillydd y Grand Prix, y Wobr Glasurol a’r Wobr Symffonig yng Nghystadleuaeth Arwain Ryngwladol Rotterdam 2022, yn dilyn ei berfformiad o Symffoni Rhif 6 gan Tchaikovsky a pherfformiad cyntaf y byd o Night Flight gan Joey Roukens gyda Cherddorfa Ffilharmonig Rotterdam.
Ers hynny, mae Bertie wedi sefydlu presenoldeb cryf ar y llwyfan ryngwladol gyda chyfres brysur o berfformiadau cyntaf ac ymrwymiadau dychwelyd, yn cynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa Symffoni Detroit, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfa Ffilharmonig Lwcsembwrg, Cerddorfa Ffilharmonig Tampere a Bruckner Orchester Linz. Yn Nhymor 2024/25, gwnaeth ymddangosiadau cyntaf pellach gyda Cherddorfa Gulbenkian yn Lisbon, Cerddorfa Maggio Musicale yn Fflorens a Cherddorfa Ffilharmonig Osaka, gan weithio gydag unawdwyr fel Imogen Cooper a Cédric Tiberghien. Yn 2025/26, mae’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Liège a Cherddorfa Siambr Lwcsembwrg ac yn dychwelyd i Glyndebourne ac Opera Holland Park.
Hefyd yn weithgar ar y llwyfan opera, cyd-sefydlodd Bertie Ŵyl Opera Waterperry ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd arni ers 2017. Yno bu’n arwain cynyrchiadau clodwiw o holl operâu Mozart/Da Ponte, yn ogystal â The Elixir of Love, Carmen a The Turn of the Screw. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Glyndebourne yn 2023, gan gamu i’r adwy ar bedair awr o rybudd i arwain The Elixir of Love, ac mae wedi dychwelyd bob Tymor ers hynny. Ymhlith rhagor o gynyrchiadau opera mae Semele yn Opera Holland Park a’i Paradise Lost ei hun, a berfformiwyd i gynulleidfaoedd a oedd wedi gwerthu allan yn Llundain yn 2022.
Mae Bertie yn gweithio’n rheolaidd ym myd perfformio hanesyddol wybodus, gan arwain Cerddorfa’r Ddeunawfed Ganrif yn ddiweddar mewn perfformiadau a darllediadau radio o Concerto Piano gan Clara Schymann. Mae hefyd yn cyfarwyddo o’r harpsicord ar gyfer perfformiadau Messiah blynyddol Waterperry a St John Passion gan Bach a bydd yn cyfarwyddo perfformiadau sydd i ddod o St Matthew Passion a Mass in B minor.




