Cwrdd â WNO

Bethan Marlow

Cafodd Bethan ei henwebu’n ddiweddar ar gyfer Gwobr Arloesol BAFTA Cymru, ac mae’n gyn-aelod o gynllun mentora BFI x BAFTA. Mae’n ddramodydd Cymraeg profiadol, ac mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cyfweliadau air am air, ac mae’n gweithio’n agos gyda chymunedau ledled y DU. Rhai o’i dramâu yw Pijin/Pigeon (Theatr Iolo a Theatr Cymru), Bren Calon Fi (Theatr Cymru), Nyrsys (Theatr Cymru), The Mold Riots (Theatr Clwyd) a’r sioe gerdd Feral Monster (Theatr Genedlaethol Cymru). Ar hyn o bryd mae Bethan yn ysgrifennu ffilmiau nodwedd Madison (cynyrchiadau ieie/BFI) a Queer as Folk Dancing (Ffilm Cymru, a gyd-ysgrifenwyd gyda Daf James). Yn achlysurol, bydd yn ysgrifennu i’r ddrama barhaus Pobol y Cwm (S4C), ac mae ganddi sawl prosiect teledu ar y gweill.