Cwrdd â WNO
Brittany Olivia Logan
Mae Brittany Olivia Logan yn Artist Ifanc Lindemann ar ei blwyddyn gyntaf gydag Opera Metropolitan, Efrog Newydd. Cyrhaeddodd Rownd Derfynol Genedlaethol yng nghystadleuaeth Eric and Dominique Laffont yr Opera Metropolitan yn 2021, gan ennill gwobr Judith Raskin. Mae hi wedi ennill Gwobr Dewis y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Cyngerdd o Arias Eleanor McCollum Opera Fawreddog Houston hefyd. Yn fwyaf diweddar, perfformiodd yn Assembly gan Rashaad Newsome yn Park Avenue Armory, Efrog Newydd a derbyniodd Grant Astudio Sara Tucker yn 2022.