
Cwrdd â WNO
Syr Bryn Terfel
Trosolwg
Yn ymwelydd cyson i brif gwmnïau opera a neuaddau cyngerdd nodedig y byd, mae Syr Bryn Terfel, y bas-bariton o Gymru, wedi creu gyrfa eithriadol i’w hun. Gwnaeth Syr Bryn ei début operatig proffesiynol fel Guglielmo Così fan tutte gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1990. Mae yn enillydd Grammy, Classical Brit a Gramophone Award ac yn 2017 fe’i gwnaethpwyd yn farchog am ei wasanaeth i gerddoriaeth.
Gwaith diweddar: Barwn Scarpia Tosca, Boris Godunov Boris Godunov (Royal Opera House); Holländer Der fliegende Holländer (Bayerische Staatsoper Münich); Sweeney Todd Sweeney Todd (Zürich Opera)