
Cwrdd â WNO
Callum Speed
Graddiodd y bariton Callum Speed o Goldsmiths, University of London gydag anrhydedd dosbarth cyntaf a chefnogaeth Ysgoloriaeth St Margaret's Lee. Yn ystod ei gyfnod yno, enillodd Gystadleuaeth Concerto Goldsmiths. Roedd perfformiad operatig proffesiynol cyntaf Callum yn Dido & Belinda (Helios Collective). Mae hefyd wedi canu yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol gyda Helios Collective ac ef oedd y Watcher gwreiddiol yn y perfformiad cyntaf erioed o hunger gan Joanna Ward, ar y cyd ag English National Opera. Un o'r rhannau y bydd Callum yn eu perfformio yn y dyfodol fydd Alidoro yn La Cenerentola (Aylesbury Opera).