
Cameron Crosby
Dechreuodd Cameron Crosby weithio yn y diwydiant adloniant ym 1971 cyn dod yn Brif Dechnegydd yn Theatr Traverse Caeredin ym 1972. Rhwng 1976 a chanol y 1980au, gweithiodd fel peiriannydd sain llawrydd, gan gydweithio â bandiau a cherddorion yn cynnwys The Who, The Kinks, Bread a Kate Bush. Ym 1980, sefydlodd The Warehouse Sound Services gydag Allan Brereton, a thyfodd y cwmni hwn i fod yn gwmni sain arbenigol mwyaf yr Alban. Mae Cameron wedi dylunio a chymysgu sain ar gyfer Plácido Domingo, English Chamber Orchestra, cerddorfeydd New Jersey a’r Royal Philharmonic, BBC Radio Orchestra, BBC Scottish Symphony Orchestra a’r Scottish Chamber Orchestra. Mae hefyd wedi dylunio a chymysgu sain ar gyfer cyngerdd cerddorfaol tân gwyllt clo Gŵyl Ryngwladol Caeredin am 34 mlynedd.
Gwaith diweddar: Nixon in China (Denmarc, Yr Alban a Madrid), The 8th Door, Candide ac Ainadamar (Scottish Opera).