
Cwrdd â WNO
Cara Hood
Mae Cara yn Ddylunydd Goleuo a Rheolwr Llwyfan Technegol llawrydd o Gymru. Fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle bu’n astudio Rheolaeth Llwyfan a Theatr Dechnegol. Mae Cara wedi ymrwymo i greu cynyrchiadau arloesol, hygyrch a chynaliadwy, ac mae’n frwdfrydig am waith sy’n cael ei ysgrifennu o’r newydd a chynyrchiadau theatr anghonfensiynol. Roedd Cara hefyd yn un o gynllun Lumières 20:20 Cymdeithas y Dylunwyr Goleuadau. Ymhlith ei chredydau theatr y mae Novacene (National Youth Dance Company), Sorter (Grand Ambition), Queerway (Leeway Productions), Bhekizizwe (Opera Ddraig), The Trial of Elgan Jones and Shirley Valentine (Theatr Na Nóg).