
Trosolwg
Ganed Carlo Rizzi ym Milan ac astudiodd arwain cerddorfeydd yn Conservatoire y ddinas, cyn mynd ymlaen i astudio yn Siena gyda Franco Ferrara ac yn Bologna gyda Vladmir Delman. Ef oedd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO o 1992 tan 2001 a 2004 tan 2008. Apwyntiwyd ef yn Arweinydd Llawryfog WNO yn mis Hydref 2015. Ag yntau'r un mor gyfforddus yn y tŷ opera a’r neuadd gyngerdd, mae ganddo repertoire cyfoethog o weithiau yn y traddodiad Eidalaidd - o Bellini i Puccini a’r ysgol ‘verismo’, ond un sy’n gyforiog hefyd o gerddoriaeth Wagner, Strauss a Janáček.
Mae Rizzi yn ŵr gwadd cyson yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd. Mae’n ymddangos yn rheolaidd gyda llawer o’r tai mwyaf mawreddog, yn cynnwys Royal Opera House Llundain, Opernhaus Zürich, Deutsche Oper Berlin, Teatro alla Scala Milan, Lyric Opera of Chicago, dell’Opera di Roma, Opéra National de Paris, Gŵyl Salzburg ac Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd. Mae ganddo bresenoldeb cryf ar bodiwm y gerddorfa. Mae’n ymddangos mewn cyngherddau symffonig gyda cherddorfeydd enwog ledled y byd, yn cynnwys yr Hallé, y Filarmonica della Scala, yr Orchestre Symphonique de Montreal, yr Orchestra dell’Accademia Nazionale di Santa Cecilia, Cerddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd, Symffoni Atlanta a Ffilharmonig Hong Kong.
Mae catalog recordiadau Carlo Rizzi yn cynnwys recordiadau cyflawn o Faust gan Gounod, Katya Kabanova gan Janáček (yn Saesneg), Rigoletto ac Un ballo in maschera gan Verdi, pob un gydag Opera Cenedlaethol Cymru; DVD a CD o La Traviata gan Verdi, a recordiwyd yn fyw yng Ngŵyl Salzburg gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna; albymau lluosog o ddatganiadau gyda chantorion opera enwog; a recordiadau o weithiau symffonig Bizet, Ravel, Respighi a Schubert.