Cwrdd â WNO
Cary John Franklin
Mae Cary John Franklin yn gyfansoddwr rhyngwladol sydd wedi derbyn comisiynau a pherfformiadau gan nifer o’r ensembles blaenllaw yn yr Unol Daleithiau. Mae ei waith yn amrywio o gerddoriaeth siambr a cherddorfaol i gerddoriaeth gorawl ac opera. Mae ei gomisiynau yn cynnwys gwaith o’r Opera Theatre of Saint Louis, Washington National Opera, VocalEssence, Dale Warland Singers, Chanticleer a'r Kansas City Symphony. Mae wedi ysgrifennu tair opera i blant a’r gwaith prif lwyfan Loss of Eden ar gyfer Opera Theatre of Saint Louis. Cafodd ei addysgu ym Minnesota yn Macalester College a’r University of Minnesota, ac astudiodd gyda Dale Warland a’r cyfansoddwr Dominick Argento, a enillodd wobr Pulitzer.