Catherine Wyn-Rogers
Roedd yn Catherine Wyn-Rogers yn Ysgolor Gwaddoldedig yn y Royal College of Music, yn astudio gyda Meriel St Clair ac ennill sawl gwobr gan gynnwys gwobr y Fonesig Clara Butt. Parhaodd gyda’i hastudiaethau gydag Ellis Keeler ac mae hi nawr yn gweithio gyda Diane Folrano.
Ymhlith ei rolau niferus, mae hi wedi canu Erda Das Rheingold a Waltraute Götterdämmerung yn Valencia a Florence gyda Zubin Mehta, ac wedi ymddangos gyda’r Lyric Opera of Chicago fel Sosostris The Midsummer Marriage, a gwnaeth ei debut gyda The Metropolitan Opera fel Adelaide Arabella. Mae Catherine hefyd wedi perfformio ar gyfer y Gwyliau Salzburg, Verbier ac Aldeburgh, yn ogystal gyda’r Teatro alla Scala Milan, Scottish Opera, WNO, Semper Oper Dresden, Teatro Real Madrid, Netherlands Opera, Houston Grand Opera a Glyndebourne Festival Opera.
Gwaith diweddar: Brenhines y Tylwythyn Teg Iolanthe (ENO); Modryb Peter Grimes, (Opéra de Paris); Lady Blanche Princess Ida (Orchestra of the Age of Enlightenment).