
Chanáe Curtis
Mae Chanáe Curtis, y soprano Americanaidd, yn un o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Ysgol Gerddoriaeth Manhattan, Efrog Newydd. Dyfarnwyd hi â Grant Gyrfa Catherine Filene Shouse a bu’n serennu’n ddiweddar fel Violetta Valéry yn La traviata fel Artist Filene yn Wolf Trap Opera. Yn ogystal, bu’n perfformio Four Last Songs gan Strauss yn Neuadd Dewi Sant a gwnaeth ymddangosiad arbennig ym Mhalas Buckingham yn perfformio ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Y tymor hwn bydd yn perfformio rhan Alice Ford yn Falstaff gydag Opera San Jose a bydd yn perfformio am y tro cyntaf yn Blue gan Jeanine Tesori cyn bo hir.
Gwaith diweddar: Iarlles Ceprano Rigoletto, Annie Porgy and Bess (Metropolitan Opera); Nedda Pagliacci (Opera Memphis); Léontine L’amant Anonyme (Wolf Trap Opera); Anna Gomez The Consul (WNO)