
Charlotte Badham
Cwblhaodd Charlotte Badham, y mezzo-soprano o Plymouth, ei hastudiaethau yn y Royal Northern College of Music. Perfformiodd yn broffesiynol am y tro cyntaf yn ddiweddar gan chwarae rhan Jo March yn Little Womengan Mark Adamo gydag Opera Holland Park (Perfformiad Cyntaf y DU), ar ôl bod yn Artist Ifanc cwmni yn perfformio rhannau Olga Eugene Onegin a Cherubino Le Nozze di Figaro. Rôl fwyaf nodedig Charlotte oedd Hansel Hansel and Gretel ac enillodd Wobr Eunice Pettigrew am ei phortread o’r rôl yn ystod ei hastudiaethau. Y Tymor diwethaf, chwaraeodd yr un rôl eto gydag Opera Canolbarth Cymru ac Opera Holland Park. Mae ei rolau eraill yn cynnwys Hippolyta A Midsummer Night’s Dream, Willie Street Scene, a Léonie La Vie Parisienne (RNCM) yn ogystal â Dido Dido and Aeneas mewn cyngerdd, a Cretan Woman Idomeneo (Buxton Festival Opera). Mae Charlotte hefyd wedi gweithio fel aelod côr gyda Scottish Opera, Garsington Opera a BFO.